Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd - gydag Ymatebion Gweinidogol |
|
P-04-685 Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru - Mae Angen Model Taliad Rhanbarthol Tecach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd y dylid
ei chau, o gofio bod yr ymateb gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd yn
mynd i’r afael â’r materion y mae’n eu codi. |
|
P-04-686 Dylid Gosod System Goleuadau Traffig yng Nghylchfan Cross Hands Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa. |
|
P-04-687 Adolygiad o Bysgota Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
i’r deisebydd a oes ganddo unrhyw sylwadau mewn ymateb i lythyr y Gweinidog.
Bydd y Pwyllgor yn trafod y ddeiseb eto yn y cyfarfod nesaf. |
|
Deisebau Newydd Eraill |
|
P-05-689 Gwelliannau i’r Ddarpariaeth Reilffyrdd yng Nghydweli Sir Gaerfyrddin Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y materion a
godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-05-690 Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan - Y Fenni Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y materion a godwyd
yn y ddeiseb. |
|
P-05-691 Bargen Deg ar gyfer Ralïo mewn Coedwigoedd yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y materion a
godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-05-692 Adeiladu Cofeb Mamieithoedd Rhyngwladol ym Mae Caerdydd Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ar y materion a
godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-05-693 Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y materion a
godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-05-694 Amseroedd Ysgol Awr yn Hwyrach Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y materion a godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-05-695 Cyflwyno Addysg Iechyd Meddwl Orfodol mewn Ysgolion Uwchradd Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar y materion a godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-05-654 Gwrthwynebu’r Cynigion Presennol o ran Dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer Llamhidyddion Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y materion
a godwyd yn y ddeiseb. |
|
P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia Dogfennau ategol: Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb hon am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn
barn Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar y materion a
godwyd yn y ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog. O gofio bod y ddeiseb hon wedi cael ei thrafod am y tro cyntaf
dros bedair blynedd yn ôl a bod y camau nesaf yn ddibynnol ar benderfyniadau
gweithredol y byddai’n rhaid i awdurdodau lleol eu gwneud, cytunwyd y dylid
cau’r ddeiseb. |
|
P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb. O gofio bod y
ddeiseb wedi cael ei thrafod am y tro cyntaf dros dair blynedd yn ôl ac nid
yw’n debygol y bydd y polisi’n newid yn y dyfodol agos, cytunodd y Pwyllgor y
dylid ei chau. |
|
P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb. O gofio bod y
Gweinidog wedi cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r arfer o saethu
gwyddau talcen-wen yng Nghymru ar hyn o bryd, cytunodd y Pwyllgor y dylid cau’r
ddeiseb. |
|
P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i: ·
ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ymchwil ar y cyd â
Chymdeithas Cadwraeth y Môr a Phrifysgol Abertawe i ymchwilio i’r mater hwn a
materion eraill a gomisiynwyd gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol ar y pryd; ac i ·
bwysleisio pwysigrwydd casglu’r wybodaeth berthnasol i ddarparu’r
dystiolaeth angenrheidiol i fynd i’r afael â’r broblem. |
|
P-04-572 Grantiau ar gyfer Gwrthsefyll Llifogydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a chytunwyd i
gau’r ddeiseb. Wrth wneud hynny,
cytunwyd y dylid gofyn i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig nodi’r materion a godwyd gan y Pwyllgor Deisebau wrth iddo drafod ei
flaenraglen waith. |
|
P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod y wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Iechyd Addysgu
Powys a chytunodd i gau’r ddeiseb oherwydd bod Aelodau’n teimlo y byddai’r
mater bellach yn cael ei ddwyn ymlaen orau ar lefel fwy lleol. |
|
P-04-553 Ymchwiliad llawn ac annibynnol i’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â thechnolegau diwifr a ffonau symudol yng Nghymru, gan gynnwys yr holl ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a chytunodd i ysgrifennu at Ganolfan Ymbelydredd, Cemegion a
Pheryglon Amgylcheddol Iechyd Cyhoeddus Lloegr i ofyn pa gamau y maent wedi’u
cymryd ar ôl cael gwybodaeth a anfonwyd atynt gan y Gweinidog ar gais y
Pwyllgor blaenorol. |
|
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol a chytunodd i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant
a Chwaraeon am y wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i fynd i’r afael â’r
pryderon a godwyd gan y ddeiseb. |
|
P-04-663 Bwyd yn Ysbytai Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y pryd, a hefyd gan Fyrddau Iechyd Lleol, a chytunodd i anfon y
wybodaeth sydd wedi dod i law hyd yn hyn at yr Archwilydd Cyffredinol a gofyn
iddo am y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae’n ei wneud ar hyn o bryd
ynghylch darparu bwyd yn ysbytai Cymru. |
|
P-04-668 Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd a’r deisebydd, a chytunodd i wneud
darn byr o waith ar y materion a godwyd ac i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros
Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r deisebwr ddod i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn
nhymor yr hydref. |
|
P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb gan Weinidog yr Economi,
Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. O ystyried y safbwynt a nodwyd yn ymateb y
Gweinidog a’r ffaith bod y ddeiseb wedi bod o dan ystyriaeth ers dros dair
blynedd, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb. |
|
P-04-468 Pryderon am Ddiogelwch Ffordd A48 Cas-gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth. O gofio bod y Gweinidog wedi nodi na fydd y terfyn cyflymder yn
cael ei ostwng ar hyn o bryd, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb. |
|
P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am
y wybodaeth ddiweddaraf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith a hefyd gan Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd. |
|
P-04-594 Apêl Cyngor Cymuned Cilmeri ynghylch y Gofeb i’r Tywysog Llywelyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a’r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa
bresennol. |
|
P-04-667 Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a
Thrafnidiaeth ar y pryd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros
yr Economi a’r Seilwaith i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am yr Archwiliad Cam
4 a sut y bydd barn y deisebwyr yn cael ei hystyried. |
|
P-04-678 Offer i Helpu Pobl Eiddil Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunwyd y dylid
cau’r ddeiseb. |
|
P-04 658 Derwen Brimmon Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a’r Seilwaith a’r deisebwr. O ystyried yr ymateb cadarnhaol gan
Ysgrifennydd y Cabinet newydd a’r sicrwydd blaenorol a roddwyd o ran amddiffyn
Derwen Brimmon, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb. |
|
P-04-637 Diogelu Dyfodol Cerddoriaeth Ieuenctid yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y
pryd a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chytunwyd y dylid pwyso ar CBAC am
ymateb i geisiadau blaenorol am wybodaeth.
Wrth wneud hynny, roedd Aelodau hefyd yn dymuno mynegi eu siom ynghylch
y diffyg ymateb gan CBAC i ohebiaeth flaenorol. |
|
P-04-655 Mynnu ein Hawliau i’r Gymraeg yn y Sector Breifat Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Prif Weinidog, Comisiynydd y
Gymraeg a chyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
O ystyried yr holl ymatebion a gafwyd, a’r argymhelliad yn adroddiad
etifeddiaeth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, cytunwyd y
dylid cau’r ddeiseb. |
|
P-04-660 Y Pwysau Ychwanegol sy’n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth
gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y pryd a chytunwyd y dylid cau’r
ddeiseb. Wrth wneud hynny, cytunwyd
hefyd y dylid ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Ysgrifennydd y Cabinet
dros Gyllid a Llywodraeth Leol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn
iddynt ystyried y materion a godwyd wrth drafod y gyllideb nesaf. |
|
P-04-677 Mynediad Cyfartal i’r Iaith Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar y
pryd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn iddi
roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor unwaith y bydd y Ganolfan Genedlaethol
newydd ar gyfer Cymraeg i Oedolion a swyddogion y Llywodraeth wedi cwblhau’r
gwaith o drafod materion ynghylch darpariaeth a ffioedd. |
|
P-04-656 Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog a chytunwyd y dylid
cau’r ddeiseb. |
|
P-04-661 Gwahardd Defnydd Ar-lein a Phleidleisio Electronig gan Aelodau Cynulliad yn Siambr y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Llywydd blaenorol a chytunwyd y
dylid cau’r ddeiseb. |
|
P-04-674 Dyfed, Dim Diolch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
ar y pryd, a chytunodd i gadw’r ddeiseb ar agor a’i hystyried ymhellach pan
fydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cyflwyno cynigion
ar gyfer strwythur llywodraeth leol yn y dyfodol. |
|
P-04-684 Galwn am Ddeddfwriaeth Cynllunio Well a Mwy Effeithiol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth ac am Orchymyn Dosbarthiadau Defnydd Newydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol. Yng
ngoleuni’r ymateb hwnnw ac, yn arbennig, y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd yn y maes
hwn yn ddiweddar, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb. |