P-05-689 Gwelliannau i'r Ddarpariaeth Reilffyrdd yng Nghydweli Sir Gaerfyrddin.
P-05-689 Gwelliannau i'r Ddarpariaeth Reilffyrdd yng Nghydweli Sir Gaerfyrddin.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Councillor Philip Thompson
ar ôl casglu 138 llofnod.
Geiriad
y ddeiseb
Mae Cydweli yn dref fywiog yn Sir Gaerfyrddin, gyda
llawer o atyniadau ymwelwyr, gan gynnwys cei sy'n edrych dros aber y Gwendraeth
gydag adar a bywyd gwyllt prin, camlas Kymer, sef camlas hynaf Cymru ac
amgueddfa Ddiwydiannol.
O ran demograffig, mae gan Gydweli gyfran uwch na'r cyfartaledd
yn Sir Gaerfyrddin o bobl sydd â salwch hirdymor cyfyngol a'r gyfran uchaf o
bobl dros 45 oed yn y sir, yn ôl proffil adran etholiadol 2015 adran Polisi,
Ymchwil a Gwybodaeth Sir Gaerfyrddin.
Yn ogystal mae llawer o bobl yn cymudo i'r gwaith neu ar
gyfer gweithgareddau cymdeithasol y tu allan i'r dref.
Materion
1. Mae'r orsaf yn arhosfan ar gais, ac mae hyn yn achosi
problemau, (a) nid yw ymwelwyr, twristiaid a thrigolion newydd yn deall bob
amser bod angen iddynt roi arwydd i wneud i'r trên stopio, mae hyn yn golygu
bod pobl yn amharod i ddefnyddio'r trenau ac mae hyn o bosibl yn cael effaith
negyddol ar economi'r dref (b) ar drenau heb swyddog tocynnau ni all teithwyr
llai abl yn gorfforol symud i lawr y trên at y gyrrwr, mae llawer o bobl yn poeni
ac yn ofidus y byddant yn mynd heibio i'w harosfan a dywedwyd bod hynny wedi
digwydd, (c) mae'n amlwg bod amser wedi'i gynnwys yn yr amserlen er mwyn
caniatáu i'r trên stopio, gan y gellid gofyn am hyn ar bob taith, felly mae'r
gofyniad o ran cais yn anacronistig ac yn ddiangen. Dylai'r orsaf fod yn
arhosfan safonol ac nid yn arhosfan ar gais.
2. Mae uchder y
platfform ar y platfform tua'r gorllewin mor isel fel na all cadair olwyn na
phobl â chymhorthion symudedd eraill fynd i mewn nac allan o'r trenau, hyd yn
oed gyda system ramp symudol y trên. Mae hyn yn golygu bod y ddarpariaeth yn
wahaniaethol o safbwynt cadeiriau olwyn a defnyddwyr eraill sy'n llai abl yn
gorfforol.
3. Nid yw amlder y
trenau sy'n gwasanaethu Cydweli yn ddigonol i gefnogi'r gymuned a'r niferoedd
posibl o dwristiaid. Mae hyn yn cyfyngu ar deithiau cymdeithasol, masnachol a
thwristiaeth, gan gael effaith negyddol ar les cymdeithasol ac economaidd y
gymuned.
Trosglwyddo deiseb yn y
Senedd
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2016 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ac, o ystyried y wybodaeth ddefnyddiol a
gafwyd yn yr ymateb, cytunwyd y dylid cau’r ddeiseb.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 12/07/2016
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Llanelli
·
Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 05/07/2016