P-04-658 Derwen Brimmon
P-04-658 Derwen Brimmon
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mervyn Lloyd Jones and Rob
McBride a chasglwyd 4,730 llofnod a’r
lein
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gadw at argymhellion adroddiad a
gomisiynodd gan yr arbenigwr coedyddiaeth a benodwyd fel rhan o'r asesiad
amgylcheddol ar gyfer ffordd osgoi yr A483 y mae gwir angen amdani yn Y
Drenewydd.
Byddai hyn yn arwain at gadw un o 'Henebion Naturiol'
mwyaf arwyddocaol Sir Drefaldwyn, tra'n hwyluso adfywiad economaidd y dref
sirol. Mae pobl o Sir Drefaldwyn, ar draws Cymru ac yn wir y byd ehangach yn
ymwybodol bod cynaliadwyedd bob amser wedi bod yn 'brif egwyddor drefniadol'
Llywodraeth Cymru ers creu'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999.
Bydd diogelu Derwen Brimmon, fel rhan o Ffordd Osgoi
hanesyddol yr A483 yn Y Drenewydd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i warchod
ein genedigaeth-fraint er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Etholaeth
a Rhanbarth y Cynulliad
• Sir
Drefaldwyn
• Canolbarth
a Gorllewin Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/12/2015