P-04-686 Dylid Gosod System Goleuadau Traffig yng Nghylchfan Cross Hands

P-04-686 Dylid Gosod System Goleuadau Traffig yng Nghylchfan Cross Hands

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rhodri James ar ôl casglu 27 llofnod ar lein

 

Geiriad y ddeiseb

​Dengys ystadegyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar mai cylchfan Cross Hands yw'r 3ydd cylchfan mwyaf peryglus yng Nghymru o ran damweiniau traffig a phobl yn cael eu hanafu. Bydd unrhyw un sy'n byw yn yr ardal neu sy'n teithio'n rheolaidd ynddi'n gwybod pa mor beryglus yw'r gylchfan erbyn hyn. Llofnodwch a rhannwch y ddeiseb, er mwyn pwyso am ddatrysiad.

 

Gwybodaeth ychwanegol

​Mae'r gwrthwynebwyr yn dadlau y byddai goleuadau traffig yn arafu traffig ar ffordd sydd eisoes yn brysur. Gosodwyd goleuadau traffig ar gylchfannau Caerfyrddin a Phont Abraham ers peth amser, ac nid yw tagfeydd traffig yn broblem ddifrifol yn y ddau le. Wrth i'r ffyrdd brysuro, mater o amser yn unig ydyw nes bydd rhywun yn cael ei anafu'n ddifrifol. Dylid defnyddio synnwyr cyffredin a chynorthwyo i gyflwyno camau gorfodi er mwyn gwneud y ffordd hon yn llawer mwy diogel i bob modurwr

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Statws

 

Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n bosibl nodi sut i fynd â'r ddeiseb ymlaen yn absenoldeb y cysylltiad gyda'r deisebwr.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2016