P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym

Mae’r amser wedi dod i roi’r gorau i’r llanast y mae’r miliynau o gartonau polystyren bwyd a diod yn ei wneud o draethau a chefn gwlad Cymru. Mae polystyren (EPS) yn elfen amlwg o sbwriel trefol a morol. Mae’n niweidiol i fywyd gwyllt sy’n ei lyncu ac mae’n costio miliynau i Gynghorau Cymru ei dynnu oddi ar ein strydoedd. Mae polystyren yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i ddiraddio. Mae dros 100 o ddinasoedd yn yr Unol Daleithiau (gan gynnwys Efrog Newydd), Canada, yn ogystal ag Ewrop wedi gwahardd deunydd pacio polystyren ar gyfer bwyd o ganlyniad i effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. Gobeithiwn y bydd Cymru yn cael y weledigaeth i ymuno â’r rhestr honno. Felly, gan fod cymaint o ddewisiadau amgen i ddeunydd pacio polystyren (EPS) bellach ar gael, sy’n cael llawer llai o effaith ar yr amgylchedd ac iechyd dynol, a hefyd er mwyn arbed miliynau o bunnoedd i drethdalwyr Cymru mewn costau glanhau strydoedd, yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno gwaharddiad ar yr holl ddeunydd pacio polystyren ar gyfer bwyd a diod cyflym.

 

Prif ddeisebydd:  Friends of Barry Beaches

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29 Ebrill 2014

Nifer y llofnodion: 295

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/04/2014