P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/04/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, yn sgil ei gasgliad ei bod hi'n well mynd i'r afael â materion heb eu datrys drwy'r prosesau craffu lleol sy'n mynd rhagddynt.  Wrth wneud hynny, roedd Aelodau yn dymuno diolch i'r deisebydd am ei amser a'i ddiwydrwydd drwy gydol ystyriaeth y Pwyllgor o'r mater hwn.

 

Geiriad y ddeiseb

Nes y bydd y Gweinidog Iechyd wedi cael cyfle i ystyried argymhellion yr Athro Marcus Longley yn ei adroddiad ar safon y gwasanaeth iechyd yng nghefn gwlad Cymru - adroddiad a gomisiynwyd gan y Gweindog ei hun yn Ionawr 2014 - yna rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddwyn perswâd ar Lywodraeth Lafur Cymru i ohirio trafod Cynllun Busnes Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n argymell israddio Ysbyty Coffa Ffestiniog i ddim byd mwy na ‘Canolfan Goffa’.

 

Prif ddeisebydd:  Geraint Vaughn Jones

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 17 Mehefin 2014

Nifer y llofnodion: 2,754

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi crynodeb o’i ystyriaeth (469 KB) o’r ddeiseb (22 Ionawr 2018)

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2014

Dogfennau