P-04-661 Gwahardd Defnydd Ar-lein a Phleidleisio Electronig gan Aelodau Cynulliad yn Siambr y Senedd

P-04-661 Gwahardd Defnydd Ar-lein a Phleidleisio Electronig gan Aelodau Cynulliad yn Siambr y Senedd

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sovereign Wales

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael eu gwahardd rhag defnyddio'r rhyngrwyd yn ystod sesiynau yn y Senedd, ac i sicrhau bod pleidleisio yn y Senedd yn cael ei wneud drwy ddangos dwylo, ar lafar neu ddefnyddio papur pleidleisio.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae yna ofid y gall defnyddio'r rhyngrwyd yn ystod trafodaethau yn y Senedd effeithio'n negyddol ar uniondeb trafodaethau gwleidyddol a deddfwriaeth yng Nghymru. Dylai Aelodau'r Cynulliad ganolbwyntio'n llawn ar sesiynau trafod. Os nad yw Aelodau'r Cynulliad yn talu sylw i drafodaethau yn y Senedd, sut y gallwn ddibynnu arnynt i ystyried diddordebau'r bobl y maent yn eu cynrychioli?

 

Dylid hefyd bleidleisio drwy ddangos dwylo, ar lafar neu ddefnyddio papur pleidleisio neu gofrestriad er mwyn sicrhau tryloywder llawn. Mae technoleg a'r rhyngrwyd yn gymorth mawr ar gyfer gwaith gweinyddu ac ymchwil ond ni ddylid dibynnu arnynt, na chaniatáu iddynt ddylanwadu ar y broses ddemocrataidd a thrafodaeth wleidyddol iach a chadarn yn gyffredinol.

 

O gymharu, mae Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio yn erbyn pleidleisio electronig yn siambr eu Cynulliad hwy. Yn yr Alban, er y caniateir defnyddio dyfeisiau electronig yn lle nodiadau ar bapur i siarad yn sesiynau Senedd yr Alban, mae Llywydd Senedd yr Alban wedi gwahardd defnyddio'r rhyngrwyd.

 

 Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

•Gorllewin Caerdydd

•Canol De Cymru

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/01/2016