P-05-654 Gwrthwynebu’r Cynigion Presennol o ran Dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer Llamhidyddion
P-05-654 Gwrthwynebu’r Cynigion Presennol o ran Dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer Llamhidyddion
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Stephen De-Waine ar ôl
casglu 109 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae ffiniau
presennol yr Ardaloedd Cadwraeth Arbennig arfaethedig ar gyfer Llamhidyddion yn
cael eu sefydlu. Dylid cynnwys gwyddoniaeth i gefnogi ffactorau ffisegol a
biolegol sy'n hanfodol i gylch bywyd y Llamhidyddion, gan gynnwys nodi lle
mae'r creaduriaid yn bwydo a lloia. Ni ddylent gael eu sefydlu'n unig gan
edrych ar boblogaeth o 10%, a ganfuwyd drwy fapio, sy'n wyddoniaeth
artiffisial.
Fel y gwyddoch mae'n debyg,
mae'r DU o dan fygythiad achos cyfreithiol ar hyn o bryd, oherwydd y dylai
ddynodi rhagor o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn unol â'r Gyfarwyddeb
Cynefinoedd ar gyfer diogelu Llamhidyddion Harbwr.
Mae'r gwrthwynebiad hwn yn
deillio yn sgîl y ffaith ei bod, ar hyn o bryd, yn amhosibl mesur yr effaith y
gall Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sydd newydd eu dynodi eu cael ar y diwydiant
pysgota yn y dyfodol. Mae hefyd yn gofyn cwestiynau ynghylch beth yw'r sail
wyddonol a ddefnyddiwyd i sefydlu'r ardaloedd arfaethedig
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'r Cyfarwyddebau
Cynefinoedd Ewropeaidd presennol wedi profi, o dan Erthygl 6 (3) Asesiad
Rheoliadau Cynefinoedd, os cânt eu defnyddio'n ddiwahân, y gallent gael effaith
ddinistriol ar ein cymunedau arfordirol sy'n dibynnu ar bysgota am eu
bywoliaeth.
Mae'r Ardaloedd Cadwraeth
Arbennig dynodedig presennol wedi cyfyngu ar bysgodfeydd, gan ddod â chaledi i
ran ein cymunedol arfordirol. Hefyd, ar brydiau, nid oes tystiolaeth wyddonol
gadarn i gefnogi penderfyniadau'r Llywodraeth, ond yn hytrach mae'n defnyddio'r
egwyddor ragofalus.
Er bod Llamhidyddion eisoes yn
cael eu gwarchod yn dda, bydd dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig o'r newydd, a
fydd yn troshaenu ar yr ACA presennol, o bosibl, yn caniatáu i unigolion lunio
achos cryfach gerbron Cyfarwyddiaeth Gyffredinol yr UE ar yr Amgylchedd yn y
dyfodol. Bydd yr achos hwnnw'n nodi rhagor o gyfyngiadau, er mwyn gwarchod yr
amgylchedd morol ar draul y cymunedau arfordirol.
Mae maint y safleoedd yn
awgrymu bod y ffiniau wedi cael eu sefydlu gan ddefnyddio'r egwyddor ragofalus,
yn hytrach na gwyddoniaeth. Mae modelu yn ei hanfod yn wyddoniaeth artiffisial
a ddefnyddir pan fydd y ffeithiau'n brin. Mae modelu hefyd yn gwbl ddibynnol ar
y data, a gaiff eu bwydo i'r system.
Byddai'n well darganfod beth
yw'r factorau ffisegol a biolegol sy'n hanfodol i gylch bywyd y Llamhidyddion,
a ble y bydd yn bwydo a lloia. Ni ddylid edrych ar boblogaethau o 10% yn unig
er mwyn pennu ffiniau'r ACA arfaethedig newydd.
Nid yw'r rhan fwyaf o
bysgotwyr yn wahanol o gwbl i'r amgylcheddwyr. Maent hwythau'n mwynhau'r
amgylchedd morol y maent yn gweithio ynddo, ac maent wrth eu bod yn gweld
mamaliaid morol tra byddant yn pysgota.
Rydym mewn perygl o
dros-reoleiddio'r moroedd o amgylch ein harfordir â deddfwriaeth amgylcheddol.
Gallai hynny arwain at eithrio cymdeithasol o ran gweithgareddau traddodiadol y
mae ein cymunedau arfordirol yn dibynnu arnynt.
Y broblem graidd yw pan fydd
dynodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn cael ei ddefnyddio fel prif ddull i atal
gweithgareddau, wedi i unigolion a sefydliadau gamddefnyddio deddfwriaeth mewn
apeliadau a drefnwyd yn ofalus gerbron Cyfarwyddiaeth Gyffredinol yr UE ar yr
Amgylchedd. Nid oes ganddynt wyddoniaeth ddibynadwy i gefnogi cam i gyfyngu ar
weithgareddau ychwaith. Bryd hynny, defnyddir yr egwyddor ragofalus i gau
pysgodfeydd neu i gyfyngu ar weithgareddau, sydd yn ei dro yn arwain at galedi
difrifol i'r cymunedau arfordirol.
Mae'n eithriadol o bwysig bod
yr ardal yn gymharol a'i bod wedi'i dynodi ar sail tystiolaeth wyddonol gadarn.
Statws
Mae'r ddeiseb hon yn cael ei thrafod
gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2016
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Preseli Sir Benfro
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/07/2016