Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd

Bwriedir i etholiad nesaf y Senedd gael ei gynnal ar 6 Mai. Er mwyn cydnabod yr angen am degwch i bob ymgeisydd yn ystod cyfnod yr etholiad, daw holl weithgareddau’r pwyllgorau i ben o 7 Ebrill (ac eithrio gweithgareddau cyfyngedig iawn mewn cysylltiad ag is-ddeddfwriaeth frys neu ddarpariaethau Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021). Disgwylir i bwyllgorau newydd gael eu sefydlu cyn haf 2021.

Cylch gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor Deisebau ar 28 Mehefin 2016 i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 23.

Ei rôl oedd ystyried yr holl ddeisebau derbyniadwy a gyflwynwyd gan y cyhoedd. Roedd yn rhaid i’r deisebau fod ar faterion yr oedd gan y Senedd y pŵer i weithredu arnynt. Roedd y broses ddeisebau yn galluogi’r cyhoedd i amlygu materion ac i ddylanwadu’n uniongyrchol ar waith y Senedd. Mae ei swyddogaethau penodol wedi’u nodi yn Rheol Sefydlog 23.

Aelodau'r Pwyllgor