P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia
P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Altzheimer’s Society
ar ôl casglu 5,861 llofnod wefan e- ddeiseb arall.
Geiriad y Ddeiseb
Rydym yn galw ar Lywodraeth
Cymru i ymrwymo i strategaeth ar ddementia sy’n gwella bywydau pobl sy’n byw â
dementia yng Nghymru.
Amcangyfrifir bod yna 45,000 o
bobl yn byw â dementia yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae llai na 50% ohonynt
wedi derbyn diagnosis ffurfiol. Mae derbyn diagnosis o ddementia’n
grymuso pobl i wneud penderfyniadau am y gofal a’r gefnogaeth y maent yn eu
derbyn; mae’n agor y drws i gael at wasanaethau a, lle y bo angen,
meddyginiaeth.
Fodd bynnag, mae’n debygol iawn
bod hyd yn oed y rheiny sydd wedi derbyn diagnosis heb dderbyn y wybodaeth a’r
gefnogaeth y mae arnynt eu hangen er mwyn byw’n dda â dementia. Ni
dderbyniodd 1 o bob 10 o bobl â dementia yng Nghymru unrhyw gefnogaeth o gwbl
yn y flwyddyn gyntaf ar ôl eu diagnosis, gan adael iddynt ymdopi â’u diagnosis
ar eu pen eu hunain.
Mae pobl sy’n byw â dementia
yng Nghymru yn llai tebygol o dderbyn diagnosis, ac maent yn llai tebygol o
gael mynediad at gymorth ar ôl diagnosis na’r rheiny sy’n byw yng ngweddill y
Deyrnas Unedig. Mae’n rhaid i hyn newid.
Mae arnom eisiau i Lywodraeth
Cymru ddatblygu strategaeth ar ddementia i Gymru, strategaeth sy’n dangos
ymrwymiad i wella cyfraddau diagnosis ac sy’n sicrhau’r mynediad at wasanaethau
lleol a’r ansawdd gofal y mae pobl sy’n byw â dementia’n ei haeddu.
Trosglwyddo deiseb yn y
Senedd
Statws
Yn ei
gyfarfod ar 21/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y
ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod prif nod y ddeiseb
yn cael ei diwallu bellach, cytunodd i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny,
roedd yr Aelodau am ddiolch i'r deisebwyr am eu hymgysylltiad â'r broses
ddeisebu.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2016