Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2024 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Rhys ab Owen AS.

 

Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.

 

Roedd Mike Hedges AS yn bresennol yn y cyfarfod yn dirprwyo ar ran Buffy Williams AS.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1381 Gwrthodwch bob cynllun ar gyfer Taliadau Defnyddwyr Ffyrdd, Parthau Atal Tagfeydd ac Ardollau Parcio mewn Gweithleoedd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Llywodraeth Cymru yn glir ynghylch ei chynlluniau.  

Nid oes unrhyw gynlluniau ar y gweill i gyflwyno taliadau cyffredinol ar gyfer modurwyr, a byddai cynlluniau o'r fath ond yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â mannau problemus o ran llygredd aer.  Nododd Joel James AS bryderon am yr effaith y gallai unrhyw daliadau yng Nghaerdydd yn y dyfodol ei chael ar ei etholwyr sy’n cymudo i’r ddinas. Fodd bynnag, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, o ystyried nad oedd unrhyw beth pellach y gallent ei wneud, a diolch i’r deisebydd.

 

2.2

P-06-1382 Dylid gwahardd rhyddhau balwnau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau i annog newid diwylliannol ac ymddygiadol, yn hytrach na chyflwyno gwaharddiad llwyr. Yng ngoleuni'r ymateb hwn, nid yw'n glir beth arall y gall y Pwyllgor ei wneud i fwrw ymlaen â'r ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebydd am dynnu sylw at y mater pwysig hwn a chau'r ddeiseb.

 

2.17

P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog i gadarnhau a fyddai'n ystyried darparu cymorth dyngarol os bydd y Pwyllgor Argyfyngau Brys yn lansio apêl. Gwnaeth yr Aelodau annog y Gweinidog hefyd i gyfarfod â'r elusennau dyngarol sy'n ymwneud ag apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys yng Nghymru.

 

2.4

P-06-1388 Dileu’r gofyniad i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed i allu manteisio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a Chadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i dynnu sylw at y ddeiseb hon ac i ofyn a ellir ystyried hyn fel rhan o unrhyw waith yn y dyfodol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

 

Nododd yr Aelodau hefyd y bydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad undydd i gynllyn Cyswllt Ffermio ar 22 Chwefror.

 

Yng ngoleuni’r gwaith sy’n debygol o gael ei wneud gan Bwyllgorau eraill ar y mater, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

2.5

P-06-1389 Cyflwyno terfyn cyflymder o 30mya ar y gefnffordd trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at y Dirprwy Weinidog i rannu ymateb manwl y deisebydd ac i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • ceisio eglurhad pam na ellir mynd i’r afael â’r pryderon presennol o dan y polisi presennol fel y’i hamlygwyd gan y deisebydd; a

gofyn am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r canllawiau Gosod Terfynau Cyflymder Lleol newydd yng Nghymru, ac a fydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i adolygu’r terfyn cyflymder yn Eglwys Fach a Ffwrnais.

 

2.6

P-06-1390 Rhoi diwedd ar bob bwyd â chymhorthdal yn y Senedd ac i staff Llywodraeth Cymru yn gyffredinol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i

ysgrifennu at Gomisiwn y Senedd a Llywodraeth Cymru i ofyn am eu barn ar y ddeiseb.

 

2.7

P-06-1393 Dylid grymuso rhieni i ddewis: Yr hawl i gael eithriad a chyfranogiad cynhwysol yn y rhaglen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chydnabod pryderon gwirioneddol rhieni, ond nododd fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori'n helaeth ar y cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a bod gwaith craffu manwl wedi'i wneud arno yn y Senedd. Yng ngoleuni hyn, nid yw’r Aelodau’n credu ei bod yn briodol cymryd unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb a chytunwyd i’w chau.

 

Yn ogystal â chau'r ddeiseb, awgrymodd yr Aelodau y dylai rhieni gysylltu â'u hysgolion unigol, Byrddau Llywodraethwyr ac awdurdodau lleol mewn perthynas â phryderon ynghylch cyfathrebu effeithiol a defnyddiol ynghylch cyflwyno'r cwricwlwm.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1353 Datganoli cyfrifoldebau a chyllidebau ar gyfer cefnffyrdd yng ngogledd Cymru i ogledd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y Gweinidog yn glir yn ei ymateb nad oes unrhyw gynlluniau i ddatganoli cyfrifoldebau i Ogledd Cymru. Yn sgil hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.2

P-06-1345 Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod y deisebwyr bellach wedi cael canlyniad llwyddiannus, ar ôl i CADW gytuno i ariannu gwaith arolygu hanfodol yng Nghastell Rhiw'r Perrai.

 

O ganlyniad cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb ar hyn o bryd a llongyfarch y deisebwyr ar eu hymgyrch lwyddiannus, gan ddymuno’n dda iddynt gyda’u hymdrechion yn y dyfodol i achub yr adeilad hanesyddol hwn.

 

3.3

P-06-1348 Comisiynu gwasanaethau GIG addas yng Nghymru ar gyfer pobl ag EDS neu anhwylderau sbectrwm hypersymudedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Mike Hedges AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Ef yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar glefydau prin.

 

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ganddo aelodau o'r teulu sydd â’r cyflwr.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd, er bod y deisebwyr yn croesawu’r cynnydd a’r cyfle i weithio gyda’r rhwydwaith strategol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau cyhyrysgerbydol a’r rhwydwaith gweithredu clefydau prin, fod ganddynt rai cwestiynau pellach yr hoffent gael ateb iddynt. Yng ngoleuni hyn cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am atebion i'r cwestiynau a godwyd gan y deisebwyr.

 

3.4

P-06-1352 Cymeradwyo adeiladu trydedd bont dros y Fenai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Peredur Owen Griffiths AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ganddo aelodau o'r teulu sy'n byw yn yr ardal.

 

Datganodd Mike Hedges AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae ei ferch yn croesi'r bont yn ddyddiol.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor nes y ceir ymateb gan y Gweinidog i'r adroddiad.

 

3.5

P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru?

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor a gofyn i'r deisebydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl iddo gyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

3.6

P-06-1366 Adfer y cyllid ar gyfer gwasanaethau Bysiau Cwm Taf 351 (Dinbych-y-pysgod i Bentywyn) a 352 (Dinbych-y-pysgod i Gilgeti)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod yr awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau i adfer rhai o'r gwasanaethau yr oedd pryderon eu bod wedi cael eu colli.

 

Nododd yr Aelodau hefyd y bydd y Pwyllgor yn siarad â gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus ar ôl hanner tymor mewn perthynas â deisebau eraill, ac y bydd yn codi rhai o'r heriau sy'n wynebu'r sector bysiau. Yn sgil hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.7

P-06-1370 Achub y ddarpariaeth mân anafiadau dros nos yn Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd benderfyniad y Bwrdd Iechyd, gan nodi bod hyn i bob pwrpas yn dod â'r ddeiseb i ben yn naturiol. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i'r deisebwyr am eu hymgyrch gref, a'u geiriau caredig am y Pwyllgor, a chau'r ddeiseb.

 

3.8

P-06-1373 Dylid atal Llywodraeth Cymru rhag gwastraffu £4 miliwn ar ddatblygiad preifat “Skyline” ar Fynydd Cilfái, Abertawe

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i'w chadw ar agor ac aros am ganlyniad y cais cynllunio.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.