P-06-1373 Dylid atal Llywodraeth Cymru rhag gwastraffu £4 miliwn ar ddatblygiad preifat "Skyline" ar Fynydd Cilfái, Abertawe
P-06-1373 Dylid atal Llywodraeth Cymru rhag gwastraffu £4 miliwn ar ddatblygiad preifat "Skyline" ar Fynydd Cilfái, Abertawe
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Neil Jones, ar ôl casglu 2,109 lofnodion
ar-lein a 942 lofnodion ar bapur, sef cyfanswm o 3,051 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae'r cynlluniau ar gyfer .skyline yn cynnwys preifateiddio man cyhoeddus
agored ar gyfer prosiect na ŵyr neb a fydd yn llwyddo ai peidio. Bydd
cyfranddalwyr y cwmni preifat hwn yn elwa ar y chwistrelliad mawr hwn o arian,
ond mae perygl iddo greu difrod amgylcheddol mawr, a hynny heb unrhyw sicrwydd
o lwyddiant y fenter yn yr hirdymor.
Goblygiadau’r cais yw y caiff amwynder natur lleol a ddefnyddir yn helaeth
ei golli. Dylid gweithredu mewn modd gwell, sef: Defnyddio cynlluniau presennol
i warchod a gwella bioamrywiaeth y rhan wyllt hon o Abertawe. Mae grant arian
mawr ar gyfer dim budd penodol yn annoeth.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Trodd llygredd gwenwynig a ddeilliodd o orffennol diwydiannol metel trwm
Abertawe ein bryniau’n dir diffaith, nes yn 70au’r ganrif ddiwethaf, dechreuodd
partneriaeth rhwng ein Cyngor a'r Brifysgol ei drawsnewid yn raddol yn goetir
pinwydd, oherwydd dyna’r unig rywogaeth a allai dyfu yno. Dechreuodd y gymuned
leol ac ysgolion gyfrannu bryd hynny, ac mae hyn wedi parhau hyd heddiw
oherwydd mae grŵp gwirfoddol yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru i
ddad-ddofi’r coetir fel bod rhywogaethau a chreaduriaid cynhenid bellach yn
ffynnu.
Rydym yn falch bod ein coetir yn cael ei adnabod fel yr enghraifft orau o
goetir trefol wedi'i adfywio yng Nghymru, ac mae gan bobl leol feddwl y byd
ohono fel lle arbennig i fwynhau’r gwyrddni a’r awyr iach ar ochr ddwyreiniol y
ddinas. Mae’r ardal hefyd yn ystafell ddosbarth awyr agored ar gyfer ysgolion
lleol. Os oes arian i'w wario, gadewch i ni gael rheolaeth o’r coetir,
llwybrau, gwaith cynnal a chadw llwybrau, ceidwaid, hynny yw, pethau nad ydym
wedi’u cael ers 25 mlynedd!
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyrain Abertawe
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/11/2023