P-06-1390 Rhoi diwedd ar bob bwyd â chymhorthdal yn y Senedd ac i staff Llywodraeth Cymru yn gyffredinol
P-06-1390 Rhoi diwedd ar bob bwyd â chymhorthdal yn y Senedd ac i staff Llywodraeth Cymru yn gyffredinol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan David Morgan, ar ôl casglu
337 lofnodion ar lein a 99 lofnodion ar bapur, sydd yn wneud cyfanswm o 436
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
O ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi yn
ddiweddar ei bod yn ystyried gwaredu rhai eitemau o brydau bargen, mewn ymgais
i orfodi’r cyhoedd yng Nghymru o ran beth i’w fwyta, mae’r ddeiseb hon yn galw
am i fwyd â chymhorthdal ddod i ben ar gyfer Aelodau o Senedd Cymru a’u staff.
Pam y dylai pobl Cymru orfod dioddef yn ariannol tra bo’r
rheini yn y Senedd a Llywodraeth Cymru yn mwynhau prydau rhad?
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae pobl yng Nghymru wedi cael llond bol ar y tresmasu
cyson ar ein bywydau gan y cyrff busneslyd yn Llywodraeth Cymru sydd am ddweud
wrthym beth y dylem ei fwyta neu beidio, tra byddan nhw’n mwynhau bwyd a
phrydau â chymhorthdal.
https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/390-fry-up-welsh-politicians-26304030
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gŵyr
- Gorllewin De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2024