P-06-1381 Gwrthodwch bob cynllun ar gyfer Taliadau Defnyddwyr Ffyrdd, Parthau Atal Tagfeydd ac Ardollau Parcio mewn Gweithleoedd yng Nghymru
P-06-1381 Gwrthodwch bob cynllun ar gyfer Taliadau Defnyddwyr Ffyrdd, Parthau Atal Tagfeydd ac Ardollau Parcio mewn Gweithleoedd yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Daniel Williams, ar ôl
casglu 340 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar adeg pan fo pobl yn ei chael hi’n anodd ymdopi â
chostau byw, nid yw’n ymarferol i bobl fynd i gostau er mwyn gorfod teithio
rhwng ac ar draws trefi a dinasoedd Cymru.
Bydd cynlluniau fel yr un sy’n cael ei ystyried yng
Nghaerdydd, er enghraifft, yn effeithio’n anghymesur ar y rheiny sydd eisoes yn
ei chael hi’n anodd, er gwaetha’r honiadau bod pobl mewn ardaloedd tlotach yn
llai tebygol o fod yn berchen ar gar.
Mae pobl Cymru am ei gwneud yn gwbl glir NAD YDYM yn
cefnogi gweithredu’r cynlluniau hyn.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Cynllun gwneud arian yn unig yw’r cynlluniau ar gyfer
taliadau ffyrdd, parthau atal tagfeydd ac ardoll parcio mewn gweithleoedd.
Dyma linc i’r cynlluniau arfaethedig ar gyfer Caerdydd
sy’n dangos yn glir mai’r bwriad yw rhoi tâl arall ar ddefnyddwyr ffyrdd.
https://keepingcardiffmoving.co.uk/cy/project/cynllun-tal-defnyddwyr-ffyrdd-caerdydd/
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/12/2023