P-06-1366 Adfer y cyllid ar gyfer gwasanaethau Bysiau Cwm Taf 351 (Dinbych-y-pysgod i Bentywyn) a 352 (Dinbych-y-pysgod i Gilgeti)
P-06-1366 Adfer y cyllid ar gyfer gwasanaethau Bysiau Cwm Taf 351 (Dinbych-y-pysgod i Bentywyn) a 352 (Dinbych-y-pysgod i Gilgeti)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Melanie Mallin, ar ôl casglu cyfanswm o 1,697
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Bysiau Cwm Taf wedi rhedeg y gwasanaethau 351 a 352 ers mis Mehefin
2016. Maent wedi cael eu cefnogi gan gyllid Llywodraeth Cymru i helpu gyda
diffygion ariannol. Yn anffodus, mae’r cyllid hwn nawr yn cael ei dynnu yn ôl,
sy’n golygu bod y gwasanaethau yn anghynaliadwy yn ariannol. Ar ben hynny, gall
bws dau lawr to agored, gan weithredwr bysiau cenedlaethol mawr, weithredu
rhwng Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot ar sail fasnachol bob dydd rhwng y Pasg a
diwedd yr haf, sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y busnes teuluol bach lleol.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/10/2023