P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza
P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sam Swash, ar ôl casglu 1,795 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Gaza a phobl Palesteina yn wynebu argyfwng dyngarol wrth i fomiau
syrthio yn ddiwahân ar adeiladau preswyl, ysgolion, ysbytai, mosgiau, eglwysi,
a gwersylloedd ffoaduriaid. Mae miloedd o sifiliaid diniwed, gan gynnwys dros
3,500 o blant, wedi cael eu lladd, gyda llawer mwy wedi cael eu hanafu’n
ddifrifol neu eu dadleoli. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi rhoi cymorth
dyngarol i Wcráin yn dilyn ymosodiad Rwsia yn 2022. Dylai nawr wneud popeth o
fewn ei gallu i ddarparu cymorth i bobl Palesteina.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Alun a Glannau Dyfrdwy
- Gogledd Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2024