P-06-1388 Dileu'r gofyniad i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed i allu manteisio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd
P-06-1388 Dileu'r gofyniad i ffermwyr gael o leiaf 10 y cant o orchudd coed i allu manteisio ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Alexandra Jane Higgs, ar ôl casglu 1,047 o
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae Llywodraeth Cymru yn dylunio cynllun newydd i gefnogi ffermwyr, sef y
Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Y Cam Gweithredu Cyffredinol mwyaf dadleuol sy’n
rhaid ei gymryd i ymuno â’r cynllun hwn yw’r gofyniad i ffermwr gael o leiaf 10
y cant o orchudd coed, heb gynnwys perthi, yn ogystal â 10 y cant o gynefin. Am
amryw resymau, ni all llawer o ffermwyr blannu coed ar 10 y cant o'u tir. Dylid
gostwng canran y gorchudd coed sy’n ofynnol i allu manteisio ar y cynllun i
lefel gyraeddadwy er mwyn caniatáu i gynifer o ffermwyr â phosibl ymuno ag ef.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Bydd lleihau arwynebedd y tir ffermio cynhyrchiol yn golygu bod llai o fwyd
yn cael ei gynhyrchu. Bydd hyn yn effeithio ar bob diwydiant sy'n gwasanaethu'r
sector amaethyddol.
Bydd lefel isel o ddefnydd o'r cynllun yn niweidiol i economi wledig Cymru.
Bydd llawer o ffermwyr sy'n cael taliadau gan Gynllun y Taliad Safonol ar hyn o
bryd, ond sydd ddim yn gymwys i gael taliadau gan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy,
yn ei chael yn anodd goroesi.
Gellid cynnwys y lefelau uwch o orchudd coed yn y Camau Gweithredu Dewisol.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Brycheiniog a Sir Faesyfed
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2024