P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru
P-06-1357 Llunio Cynllun Gweithredu Microblastigau newydd i Gymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Friends of the Earth Cymru, ar ôl casglu
cyfanswm o 3,259 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae gronynnau microblastig wedi'u canfod o gopaon y mynyddoedd uchaf i
ddyfnderoedd eithaf y cefnforoedd, ac amcangyfrifir bod microffibrau plastig
o'r dillad rydym yn eu gwisgo yn cyfrif am tua 35 y cant o'r holl lygredd
plastig yn ein moroedd a'n cefnforoedd.
Canfuwyd bod microblastigau yn wenwynig i fywyd morol ac mae tystiolaeth
gynyddol yn awgrymu eu bod yn niweidiol i fywyd ar dir, gan gynnwys ni ein
hunain.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio Cynllun Gweithredu Microblastigau
newydd i warchod bywyd yn ein moroedd ac ar ein tir.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae microblastigau yn deneuach na blew dynol ond maent yn achosi problemau
mawr i fywyd yn ein cefnforoedd ac ar y tir.
Maent yn dod o sawl ffynhonnell, gan gynnwys poteli plastig, teiars
cerbydau a hyd yn oed o baent ar adeiladau a marciau ar y ffyrdd.
Maent hefyd yn yr aer ac yn ein cadwyn fwyd. Mae darnau hyd yn oed wedi'u
canfod yn y gwaed mewn 8 o bob 10 o bobl, ac nid ydym yn gwybod eto beth fydd
effaith hyn ar iechyd:
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o weithredu ar blastigau ond mae lle i
wneud mwy i ymdrin â microblastigau.
Gofynnwn i Lywodraeth Cymru weithio gyda sefydliadau ac arbenigwyr
perthnasol i lunio Cynllun Gweithredu Microblastigau i gynnwys camau fel ymdrin
â’r microffibrau plastig sy’n cael eu rhyddhau a llygredd microblastigau ar dir
ac mewn cyrsiau dŵr o amgylch Cymru, yn ogystal ag addysgu am y materion
hyn mewn ysgolion.
Mae llygredd microblastigau yn broblem fawr yng Nghymru – rhaid inni fynd
i’r afael ag ef.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gorllewin Caerdydd
- Canol De Cymru
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2023