Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 561KB) Gweld
fel HTML (221KB) |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Roedd Angela Burns yn dirprwyo ar
ran Janet Finch-Saunders. |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-745 Mwy o ddarpariaeth ar gyfer chwaraeon moduro oddi ar y ffordd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am
ganlyniad cyfarfod y deisebydd â swyddogion Llywodraeth Cymru cyn ystyried sut i
symud y ddeiseb yn ei blaen. |
|
P-05-746 Cludiant ysgol am ddim i bob plentyn yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am
sylwadau'r deisebydd i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r
Seilwaith cyn ystyried sut i symud y ddeiseb yn ei blaen. |
|
P-05-747 Profi am TB mewn gwartheg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i aros am
sylwadau'r deisebydd i ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig cyn ystyried sut i symud y ddeiseb yn ei blaen. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod y
deisebydd yn fodlon ar yr ymrwymiadau a wnaed o ran darparu gwasanaethau,
cytunodd i gau'r ddeiseb. Roedd yr
Aelodau hefyd am longyfarch y deisebwyr am ganlyniad llwyddiannus eu deiseb. |
|
P-05-697 45,000 o Resymau Pam bod ar Gymru Angen Strategaeth ar Ddementia Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb ac, o ystyried bod
prif nod y ddeiseb yn cael ei diwallu bellach, cytunodd i gau'r ddeiseb. Wrth wneud hynny, roedd yr Aelodau am ddiolch
i'r deisebwyr am eu hymgysylltiad â'r broses ddeisebu. |
|
P-05-732 Amseroedd Aros Annerbyniol ar gyfer Cleifion y GIG yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Wrecsam / Ysbyty Maelor Wrecsam Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am
sylwadau'r deisebydd i ymateb i'r ohebiaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn ystyried sut fyddai orau i symud y
ddeiseb yn ei blaen. |
|
P-04-576 Caniatáu i Blant yng Nghymru Gael Gwyliau Teuluol yn Ystod Tymor yr Ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn a gymerwyd unrhyw gamau
pellach o ran y mater hwn er mwyn ymateb i'r wybodaeth a gafwyd gan awdurdodau
lleol, ers yr ohebiaeth ddiwethaf rhwng y Pwyllgor a'i rhagflaenydd ym mis
Chwefror 2016. |
|
P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i Bawb Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog
17.24A: Mae ei chwaer yn fyddar iawn, ac mae ef wedi bod yn ymwneud â'r deisebwyr
ond nid yw wedi ymwneud â'r ddeiseb benodol hon. Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r
deisebwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu
Gydol Oes i roi tystiolaeth yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol. |
|
P-05-727 Arian i dalu ffi cofrestru Cyngor y Gweithlu Addysg ar ran Gweithwyr Cymorth Dysgu mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau’r
ddeiseb gan fod pwnc gwreiddiol y ddeiseb fel y'i cyflwynwyd, sef lefel
sybsidiaredd 2017/18, wedi cael ei sortio. |
|
P-05-701 Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffyrdd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, I Gynnwys Lle i Fynd Heibio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gysylltu
â'r deisebydd i ofyn a oes ganddo unrhyw sylwadau apellach ynghylch y
wybopdaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru. |
|
P-05-721 Deiseb Terfyn Cyflymder Penegoes Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i
ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i ofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniad trafodaethau'r deisebwyr â swyddogion
Llywodraeth Cymru. |
|
P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiantau Gosod ar Denantiaid. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd
ar y camau a ganlyn: ·
aros am ymateb gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
yn nodi a ydynt yn bwriadu cynnal unrhyw waith pellach ar y mater hwn, cyn
penderfynu sut i symud y ddeiseb yn ei blaen; a ·
gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant pryd y mae'n bwriadu
gwneud datganiad ar y mater. |
|
Sesiwn dystiolaeth - P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt 09:20 – 10:00 Panel 1 - Gweithredwyr Gwasanaethau Rheilffyrdd
10:05 – 10:45 Panel 2 - Gweithredwyr Gwasanaethau
Bysiau a Chynrychiolwyr y Diwydiant
Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd y tystion gwestiynau gan y Pwyllgor. |