P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

P-05-710 Sicrhau y gall Pobl Anabl Ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus Pryd Bynnag y Bo’i Hangen Arnynt

Wedi'i gwblhau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Whizz-Kidz, Cardiff Ambassador Club, ar ôl casglu 22 llofnod ar lein a 75 llofnod bapur = 97 llofnod

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl [ifanc] anabl yn cael yr hawl i drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch pan fo’i hangen heb yr angen i gynllunio cymorth o leiaf 24 awr ymlaen llaw. Bydd hyn yn ein galluogi i fod yn annibynnol, chwilio am swydd, teithio i’r gwaith a chwrdd â ffrindiau ar fyr rybudd. Mae Llysgenhadon Whizz-Kidz hefyd yn ymgyrchu i sicrhau hyfforddiant hanfodol mewn ymwybyddiaeth o anabledd a chymorth ym maes anabledd, ar gyfer gyrwyr tacsis a bysiau yn ogystal â staff ar drenau.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae pobl ifanc yng Nghlwb Llysgenhadon Caerdydd wedi gweithio’n galed i ymgyrchu i wella trafnidiaeth gyhoeddus. Mae pob un ohonynt wedi cael anhawster gyda thacsis, bysiau a threnau dros y blynyddoedd ac mae eu hannibyniaeth yn cael ei gyfaddawdu am nad ydynt yn gallu teithio yn ôl yr angen. Er eu bod yn cydnabod bod gwelliannau wedi’u gwneud, mae llawer o waith i’w wneud o hyd.

 

Trosglwyddo deiseb yn y Senedd

Statws

Mae'r ddeiseb hon yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd. Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2016.

 

Darparodd Whizz-Kids y fideo a ganlyn i’r Pwyllgor cyn sesiwn dystiolaeth anffurfiol a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2017: https://youtu.be/HRm040aidNE

 

Gwyliwch stori Josh, un o’r deisebydd, i weld ei brofiad o ddefnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghymru: https://youtu.be/Lmf4IERRG-Q

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/09/2016

Dogfennau