P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid

P-05-734 Gwahardd Codi Ffioedd Asiant Gosod ar Denantiaid

Wedi'i gwblhau

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Shelter Cymru ar ôl casglu 328 llofnod.

 

Geiriad y ddeiseb

​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar yr arfer annheg o godi ffioedd asiant gosod ar denantiaid.

Yn gynharach eleni, bu cefnogwyr ymgyrch Shelter Cymru siopa yn gwsmeriaid cudd i asiantau gosod ledled Cymru a chanfuont nad yw mwy na hanner (55%) yn hysbysebu ffioedd ar eu gwefannau fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Canfu’r astudiaeth y gallai tenant dalu rhwng £39.99 a £480 am yr un gwasanaeth, gan ddibynnu pa asiant oedd eu landlord wedi dewis ei ddefnyddio.

Y realiti yw nad oes y fath beth â dewis i ddefnyddwyr gyda ffioedd tenantiaid, ac mae perygl gwirioneddol bod tenantiaid a landlordiaid yn gorfod talu dwywaith am yr un gwasanaeth. Rydym yn credu y dylai Cymru ddilyn esiampl yr Alban a gwahardd ffioedd i denantiaid. Mae’r sector rhentu preifat yn yr Alban yn dal i ffynnu ac mae tri chwarter o asiantau'r Alban yn dweud bod y gwaharddiad heb gael unrhyw effaith, neu wedi cael effaith gadarnhaol, ar eu busnes.

Mae asiantau gosod Cymreig yn mwynhau twf mewn busnes oherwydd Rhentu Doeth Cymru, sy’n annog landlordiaid llai i gofrestru ag asiantau. Fodd bynnag, mae ffioedd gosod gormodol yn gwthio tenantiaid i ddyled a’i gwneud yn fwy anodd i awdurdodau lleol atal digartrefedd. Gweithredwch yn awr i roi bargen deg i’r nifer cynyddol o rentwyr preifat yng Nghymru.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/10/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau. Bu’r Pwyllgor yn trafod sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y mater hwn a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch. Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 14/02/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Abertawe
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/01/2017