P-05-747 Cynnal Profion TB ar Wartheg

P-05-747 Cynnal Profion TB ar Wartheg

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nigel Bowyer ar ôl casglu 309 llofnod. 

 

Geiriad y ddeiseb

Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gwrthwynebu cynnig gan Lywodraeth Cymru i ostwng y cyfnod amser ar gyfer cynnal y profion TB arferol ar wartheg mewn ardaloedd penodol yng Nghymru o 12 mis i 6 mis.

Yr weithred y deisebir amdani: tynnu’r cynig hwn yn ôl, a chynnal y status quo.

 

Gwartheg mewn cae

Gwartheg mewn cae

 

Statws

Statws

Yn ei gyfarfod ar 11/07/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd i gau'r ddeiseb ar y sail ei bod yn ymddangos bod y ddeiseb wedi cyrraedd ei nod. 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/03/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Mynwy
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2017