P-05-746 Cludiant Ysgol am Ddim i Holl Blant Cymru

P-05-746 Cludiant Ysgol am Ddim i Holl Blant Cymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rachel Griffiths ar ôl casglu 194 llofnod. 

 

Geiriad y ddeiseb

Rwyf yn cychwyn y ddeiseb hon i holl blant Cymru gael cludiant am ddim i'r ysgol ac oddi yno, lle maent yn byw yn y dalgylch.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Er enghraifft, oherwydd toriadau Llywodraeth y DU i gyllid y sector cyhoeddus a'r angen i'r cyngor wneud arbedion sylweddol o ganlyniad i hynny, mae cyngor Rhondda Cynon Taf bellach yn dymuno codi tâl o £285 y plentyn bob blwyddyn o fis Medi 2016 am eu cludo i'r ysgol ac oddi yno neu £95 i'r rheini sy'n cael prydau ysgol am ddim.  Gellid gwneud toriadau mewn mannau eraill e.e. a oes gwir angen planhigion yn y gymuned?

 

Bws

Bws

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/10/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan ei bod yn anodd gweld sut y gallai'r Pwyllgor fynd â'r ddeiseb yn ei blaen yn sgil diffyg cyswllt gan y deisebydd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/03/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2017