Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 11/06/2019 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: |
|
Deisebau newydd |
|
P-05-880 Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae ei ferch yn aelod o nifer o gorau. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ·
aros am
gyhoeddiad astudiaeth ddichonoldeb Llywodraeth Cymru ar yr opsiynau ar gyfer
darparu gwasanaethau cerddoriaeth a Chynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg
Cerddoriaeth, ac ·
ysgrifennu
at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r Cyngor Addysg Cerddoriaeth i ofyn am
eu barn ynghylch y materion a godwyd gan y ddeiseb a'r ddarpariaeth bresennol
ar gyfer addysg cerddoriaeth a gwasanaethau addysg cerddoriaeth. |
|
P-05-881 Trwsio ein system gynllunio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gynnwys y materion a godwyd yn
y ddeiseb mewn sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
ynglŷn ag ystod o ddeisebau sy'n ymwneud â chynllunio, a drefnwyd ar gyfer
cyfarfod y Pwyllgor ar 25 Mehefin. |
|
P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd o ran
yr ymateb a roddwyd gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor ragor o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru a sylwadau byr gan y deisebydd,
a chytunodd i aros am gyhoeddiad gwybodaeth yn deillio o'r arolwg ar gyflwr
ysgolion a’r canllawiau newydd ar reoli asbestos mewn ysgolion, a chynnig cyfle
i'r deisebydd ymateb yn fanylach, cyn ystyried a yw'n dymuno cymryd unrhyw
gamau pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-788 Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan CBAC a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil dileu'r
ymarfer penodol y cyfeiriwyd ato yn y ddeiseb, y gwaith craffu ar Fagloriaeth
Cymru a wnaed yn ddiweddar iawn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac
ymrwymiad y Gweinidog i gyhoeddi canllawiau wedi'u diweddaru ar y Fagloriaeth
a’r modd y caiff ei haddysgu. |
|
P-05-834 Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yng ngoleuni
ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i Addysgu Hanes a
Diwylliant Cymru, ac i roi rhagor o wybodaeth i'r deisebydd o ran sut y gall
gyfrannu at hyn. |
|
P-05-862 Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd a chytunodd i: ·
aros am
gyhoeddiad canllawiau a phecyn gwrth-fwlio diwygiedig yn hwyrach yn y flwyddyn
a’i rannu â’r deisebydd ar gyfer sylwadau; ·
gofyn am
farn Comisiynydd Plant Cymru, elusennau a chynrychiolwyr ysgolion ynghylch
digonolrwydd y polisi a’r rheoleiddio presennol mewn perthynas â bwlio mewn
ysgolion, ac ·
archwilio
ymhellach i sut y gall y Pwyllgor ymgysylltu â Senedd Ieuenctid Cymru
ynglŷn â’r mater hwn. |
|
P-05-797 Sicrhau mynediad at y feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru, yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis
Cystig a'r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu at Vertex Pharmaceuticals i'w
annog i gyflwyno tystiolaeth i Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru
Gyfan i’w gwerthuso fel mater o flaenoriaeth. |
|
P-05-804 Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a'r deisebydd a chytunodd i
ofyn am ragor o wybodaeth am gyfleoedd ar gyfer chwarae a mynediad i fannau
chwarae a chyfleusterau chwaraeon i blant a phobl ifanc gan y Gwasanaeth
Ymchwil, ac i ysgrifennu at Gomisiynydd Plant Cymru a Chymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru i holi eu barn am y ddeiseb. |
|
P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach o ran y ddeiseb a chytunodd i aros am gyhoeddiad
Cynllun Aer Glân drafft i Gymru yn hwyrach yn 2019 cyn ystyried cymryd camau
pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-831 Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am farn y
deisebwyr am y wybodaeth yn natganiad y Gweinidog ar 6 Mawrth, cyn ystyried
cymryd camau pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-870 Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd a chytunodd i: ·
ysgrifennu
at Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU i rannu awgrym y deisebwyr fod
tystiolaeth ddiweddar yn fwy ffafriol mewn perthynas â manteision posibl
rhaglen sgrinio ar gyfer syndrom marwolaeth y galon sydyn, a gofyn a yw'r Pwyllgor
yn bwriadu ailystyried y mater hwn, ac ·
ysgrifennu
at British Heart Foundation a British Cardiovascular Society i ofyn am ei farn
ynghylch y materion a godwyd yn y ddeiseb, a’r potensial i gynnal rhaglen
sgrinio’r boblogaeth ar gyfer cyflyrau ar y galon heb eu darganfod. |
|
P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yng
ngoleuni'r wybodaeth a gafwyd gan y Pwyllgor, gan gynnwys yr adolygiad diweddar
ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt, a’r ffaith bod y Gweinidog
wedi gwrthod y cynnig a wnaed yn y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad ei
bod yn ymddangos nad oes fawr o ddim y gellid ei gyflawni ar yr adeg yma.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-818 Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Bu'r
Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a
chytunodd i aros am sylwadau pellach gan y deisebwyr ynglŷn â’r wybodaeth
a roddwyd cyn ystyried a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb. |
|
P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor i aros am sylwadau pellach gan y deisebydd am y wybodaeth a ddarparodd
Lywodraeth Cymru, cyn ystyried a ddylid cymryd camau pellach ynghylch y
ddeiseb. |
|
P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal
traffordd arfaethedig yr M4. Yng ngoleuni'r penderfyniad a gyhoeddwyd gan y
Prif Weinidog ar 4 Mehefin, a'r gwaith craffu cynhwysfawr a wnaed mewn perthynas
â’r mater hwn gan yr Ymchwiliad Cyhoeddus, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad
oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd yn realistig, a chytunodd i gau'r
ddeiseb. |
|
P-05-850 Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-838 Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd
Liniaru’r M4. Yng ngoleuni'r penderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar 4
Mehefin, y gwaith craffu cynhwysfawr a wnaed mewn perthynas â’r mater hwn gan
yr Ymchwiliad Cyhoeddus, a llwyddiant y ddeiseb, daeth y Pwyllgor i'r casgliad
nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd yn realistig, a chytunodd i
gau'r ddeiseb. |
|
P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan Lywodraeth Cymru a’r deisebydd. Nododd yr
Aelodau yr ohebiaeth a chytunodd i godi materion perthnasol yn ystod ei sesiwn
dystiolaeth gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â nifer o
ddeisebau sy'n gysylltiedig â chynllunio yn ei gyfarfod ar 25 Mehefin. |
|
P-05-858 Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth bellach gan y deisebydd a thrydydd parti a chytunodd i
ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf ynghylch yr adolygiad o ofynion diogelwch tân a manylion yr
ystyriaeth a roddwyd o ran gwneud ardystiad trydydd parti yn ofynnol ar gyfer
gosod systemau llethu tân. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn: Item
5 Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
|
Trafod y papur opsiynau: P-05-828 Rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i ofyn am safbwyntiau amrywiaeth o
sefydliadau ynghylch yr achos o blaid, a’r goblygiadau posibl, pe bai dull
apelio ar gyfer cynigion i gau ysgolion yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys:
|