P-05-881 Trwsio ein system gynllunio

P-05-881 Trwsio ein system gynllunio

Wedi'i gwblhau

 

P-05-881Trwsio ein system gynllunio

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ruth Parker, ar ôl casglu cyfanswm o 250 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i drwsio ein system gynllunio; mae angen i ddatblygiadau newydd fod yn gynaliadwy.

 

Mae paragraff 4.2.15 o ddogfen Polisi Cynllunio Cymru yn datgan bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio sicrhau bod digon o dir ar gael, neu y bydd digon o dir ar gael, ar gyfer cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai. I allu ystyried bod tir ar gael yng ngwir ystyr y term, mae'n rhaid i'r safle dan sylw fod yn safle sydd wedi'i gynnwys mewn Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai.

 

Mae'r cyflenwad pum mlynedd o dai yn rhoi gormod o bwysau ar awdurdodau lleol, sy'n golygu bod datblygiadau anaddas yn cael eu hadeiladu. Mae'r Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn ddiffygiol: nid yw'n ystyried tai gwag na nifer yr ail gartrefi yn yr ardal. O ganlyniad i'r prinder tir, mae cynghorau'n teimlo bod angen rhoi caniatâd cynllunio hyd yn oed os ydynt yn ymwybodol o broblemau yn ymwneud â'r isadeiledd. Os yw cynghorau'n gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, mae Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn gwyrdroi eu penderfyniadau yn ystod y broses apêl.

 

Mae datblygwyr yn ymwybodol o'r bylchau yn y system, ac maent yn gallu manteisio ar fregusrwydd cymunedau drwy ymgymryd â datblygiadau hapfasnachol mawr y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol. Gan fod y datblygiadau hyn y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol, nid yw cynaliadwyedd yr ardal o ran llesiant yr economi, iechyd, trafnidiaeth a'r amgylchedd yn destun gwaith craffu manwl. Hyd yn oed os yw trigolion yn tynnu sylw at astudiaethau/ystadegau lleol a chenedlaethol yn ymwneud â'r ardal dan sylw, nid yw eu lleisiau'n cael eu clywed mewn apeliadau. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddiffinio'r hyn a olygir gan dystiolaeth 'gadarn'.

 

Cyflwynwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn atal datblygiadau anghynaliadwy ac er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael cyfle i fwynhau dyfodol rhesymol. Mae cymunedau'n teimlo nad yw polisi nac arfer yn adlewyrchu hyn.​​

 

 

A narrow city street with old buildings in the background

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/06/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Aberconwy
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/05/2019