P-05-858 Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian!
P-05-858 Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian!
P-05-858
Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian!
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John Newman, ar ôl
casglu 209 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio
paragraff 2.6 o Ddogfen Gymeradwy B mewn ffordd sydd yn ei gwneud yn orfodol
bod dyluniad, gosodiad a chynnal a chadw systemau preswyl a domestig ar gyfer
ataliad tân yn cael ei gynnal gan neb ond pobl sy'n aelodau o gynlluniau
ardystio trydydd parti priodol. Bydd hyn yn sicrhau y caiff systemau arbed
bywyd o'r fath eu dylunio, eu gosod a'u cynnal a'u cadw'n gywir gan bobl sydd
â'r cymwyseddau addas. Yn anffodus, nid felly y mae ar hyn o bryd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/09/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yn sgil yr adolygiad o ofynion diogelwch
tân, gan gynnwys y rhai o fewn rheoliadau adeiladu, sy’n cael ei gynnal ar hyn
o bryd, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am dynnu
sylw at y mater hwn.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor
Deisebau ar 15/01/2019.
Etholaeth a Rhanbarth
y Cynulliad
·
Caerffili
·
Dwyrain De Cymru
Statws
Mae'r
ddeiseb hon yn cael ei thrafod gan y Pwyllgor
Deisebau ar hyn o bryd.
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r Cynulliad
- Llofnodwch
e-ddeiseb
- Sut
mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/01/2019