P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru

P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru

Wedi'i gwblhau

 

P-05-883 Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Phil Rowe, ar ôl casglu cyfanswm o 86 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru.

 

Y nod yw creu a hybu wythnos o ddathlu a chofnodi'n hanesyddol-gywir hanes Cymru sy'n esgor ar ddysgu a chyfleoedd addysgol. Byddai'r hyn a addysgir yn fwy onest na hanes 'lân' Prydain a gafodd cynifer ohonom yn yr ysgol, ac ni fyddai'n amcanu i roi unrhyw ogwydd i'r wybodaeth gan ffafrio unrhyw barti.

 

I herio'r ffantasiau hanesyddol-anghywir sydd i'w cael ynghylch stereoteip Cymru, a sut y daeth i fod yn hierarchiaeth Prydain yn y cyfnod sydd ohoni.

 

Drwy ddeall ein hanes go iawn, hybu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, lle Cymru yn y Brydain fodern, a thrwy gyflwyno trafodaethau ynghylch sut y dylem geisio sicrhau bod hynny'n cael ei ddeall nid yn unig o fewn Cymru, ond hefyd o fewn y gwledydd eraill ar ynysoedd Prydain ac yng ngweddill y byd.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae nifer o bobl yng Nghymru (gan gynnwys fi fy hun) yn cael ein magu â thybiaethau anghywir ynghylch sut y daeth Cymru i fod, a'r 'hiliau' sydd i'w cael ar ynysoedd Prydain.

 

Bydd dealltwriaeth ddyfnach o bwy ydym a sut y cyrhaeddom lle yr ydym heddiw yn ein rhoi mewn gwell sefyllfa i ystyried lle yr ydym am fod yn y dyfodol.

 

 

 

A picture of the Welsh flag

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/12/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Yng ngoleuni'r sylw a roddwyd i’r cyfleoedd cyfredol i ddysgu am hanes Cymru yn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu, ac addewid blaenorol y Dirprwy Weinidog i drafod sut y gall gwaith hyrwyddo ddatblygu naratif ehangach, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 11/06/2019.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Castell-nedd
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/05/2019