P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus
P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus
P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar
gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus
Cyflwynwyd y ddeiseb hon
gan Anthony Britner, ar ôl casglu 119 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer saethu adar hela er mwyn
atal erlid adar ysglyfaethus a gysylltir yn aml â'r gweithgaredd hwn.
Mae adroddiadau
trosedd adar yr RSPB yn dangos mai ciperiaid sy'n gyfrifol am nifer eithriadol
o uchel o ddigwyddiadau erlid adar ysglyfaethus. Fodd bynnag, er gwaethaf y
wybodaeth hon, anaml iawn y caiff trefnwr digwyddiadau erlid ei erlyn yn
llwyddiannus oherwydd anawsterau wrth gael digon o dystiolaeth i gyhuddo
unigolyn penodol. Hyd yn oed yn yr Alban, lle mae atebolrwydd dirprwyol, prin
yw'r erlyniadau.
Oherwydd hyn,
credwn mai'r cam gweithredu mwyaf priodol yw cyflwyno cynllun trwyddedu.
Dylai'r drwydded hon fod yn drwydded i weithredu digwyddiad saethu adar hela
Dylai'r drwydded
wneud y canlynol o leiaf:
1. Bod yn berthnasol i ardal ddaearyddol a ddiffinnir yn y cais am drwydded.
2. Bod yn ofynnol er mwyn i ystâd gynnal unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â
saethu adar hela, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig o reidrwydd i'r
canlynol:
2.a. Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â magu adar hela.
2.b. Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rheolaeth gyfreithiol o ysglyfaethwyr
(rhaid i ystadau gael trwydded weithredu cyn y cânt wneud cais am drwyddedau
cyffredinol neu benodol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau rheoli plâu).
2.c. Caniatáu i aelodau'r digwyddiad saethu gymryd rhan wrth saethu adar hela y
tu allan i'r cyfnod gwaharddedig.
2.d. Caniatáu i drefnwr y digwyddiad saethu werthu diwrnodau saethu i'r
cyhoedd.
Os cynhelir
digwyddiad erlid ar dir ystâd neu'n agos ato, bydd modd i'r awdurdod priodol
atal gallu'r ystâd i gynnal yr holl weithgareddau neu unrhyw un ohonynt a
restrir o dan bwynt 2 am gyfnod.
Dylai
digwyddiadau erlid difrifol neu fynych arwain at ddiddymu trwydded weithredu'r
ystâd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Wrecsam
·
Gogledd Cymru
Statws
Yn ei gyfarfod ar 11/06/2019 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Yng ngoleuni'r wybodaeth a gafwyd gan y Pwyllgor,
gan gynnwys yr adolygiad diweddar ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau bywyd
gwyllt, a’r ffaith bod y Gweinidog wedi gwrthod y cynnig a wnaed yn y ddeiseb,
daeth y Pwyllgor i'r casgliad ei bod yn ymddangos nad oes fawr o ddim y gellid
ei gyflawni ar yr adeg yma. Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 11/12/2018.
Rhagor o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/12/2018