Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC. Nid
oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan. |
||
Deisebau newydd |
||
P-04-606 Sicrhau bod ysgolion yn defnyddio eu pwerau statudol o dan reoliad 7 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010 heb unrhyw ymyrraeth neu ragfarn. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â gohebiaeth gan y Gweinidog
Addysg a Sgiliau a sylwadau pellach gan y deisebydd, a chytunodd y byddai:
|
||
P-04-607 Galw ar Lywodraeth Cymru i brynu Garth Celyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â gohebiaeth gan y Dirprwy
Weinidog Diwylliant a Chwaraeon a sylwadau pellach gan y deisebydd ac eraill.
Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am farn y Dirprwy Weinidog ar sylwadau pellach y
deisebydd ac eraill. |
||
P-04-608 Ymchwiliad i’r GIG yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â gohebiaeth gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sylwadau pellach gan y deisebydd, a
chytunodd i ofyn am farn y Gweinidog ar sylwadau pellach y deisebydd. |
||
P-04-610 Gwrthdroi’r Toriadau i Gronfa Arian Wrth Gefn Prifysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ochr yn ochr â gohebiaeth gan y Gweinidog
Addysg a Sgiliau a chytunodd y byddai:
|
||
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
||
P-04-541 Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb am i’r deisebwyr
ddiolch i'r Pwyllgor am ei ran yn y mater hwn a nodi y byddent yn bwrw ymlaen â
thrafodaethau yn y dyfodol â'r Prif Weinidog yn uniongyrchol. |
||
P-04-549 Gwnewch ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn Anthem Genedlaethol Swyddogol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-03-315 Deiseb i gael croesfan newydd dros Afon Dyfi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y
ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb yn wyneb y ffaith bod cyllid yn cael ei
gytuno i adeiladu pont newydd ar y cyfle cyntaf, sef amcan y ddeiseb wreiddiol
i bob pwrpas. |
||
P-04-574 Bws ym Mhorth Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd: ·
i gau'r
ddeiseb gan ei bod yn glir bellach mai penderfyniad gweithredol i’r awdurdod
lleol dan sylw yw’r mater hwn; ac ·
er nad yw’n
cymryd unrhyw gamau penodol pellach o ran y ddeiseb hon, byddai’n ei chadw mewn
cof wrth ystyried deisebau eraill ar wasanaethau bysiau 'isranbarthol' y bydd y
Pwyllgor yn gweithio arnynt. |
||
P-04-590 Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
|
||
P-04-547 Gwahardd Deunydd Pacio Polystyren ar gyfer Bwyd a Diod Cyflym Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
|
||
P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
|
||
P-04-533 Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog Addysg a Sgiliau. Nododd y Pwyllgor hefyd mai cyfrifoldeb
Llywodraeth y DU yw nifer o faterion eraill a godwyd gan y deisebwyr. |
||
P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i’r Athro Fox, drwy’r
deisebydd, a yw’n gallu rhoi tystiolaeth o achosion o saethu er 2009, yn unol â
chais swyddogion Llywodraeth Cymru. |
||
P-04-555 Rhwystrwch y cynlluniau anfoesol a llym arfaethedig i’w gwneud yn orfodol i ficrosglodynnu cŵn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau’r ddeiseb. |
||
P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros nes y bydd Pwyllgor yr
Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cwblhau trafod ei Flaenraglen Waith ar 10
Rhagfyr. |
||
P-04-584 Bil Cynllunio Cymru i Ddiogelu Meysydd Tref a Phentref yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd: ·
i gau'r
ddeiseb gan fod y Bil Cynllunio (Cymru) wedi cael ei gyflwyno yn y Cynulliad ar
6 Hydref ac y mae’r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar hyn o bryd yn
craffu arno yng Nghyfnod 1; ac ·
wrth gau'r
ddeiseb, i ofyn i'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ystyried y ddeiseb
wrth adrodd i'r Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil. |
||
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru. Dogfennau ategol: Cofnodion: Gweler y
camau a gytunwyd o dan 3.14. |
||
P-04-479 Deiseb Adran Pelydr-X ac Uned Mân Anafiadau Ysbyty Tywyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i dynnu sylwadau pellach y
deisebwyr at sylw Bwrdd Iechyd y Brifysgol a gofyn iddo hysbysu'r Pwyllgor
ymhen 3 mis am gynnydd o ran datblygu a darparu gwasanaethau wedi cyhoeddi’r
adroddiad ar Astudiaeth Gofal Iechyd y Canolbarth. |
||
P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd:
|
||
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd: ·
i ofyn am
sylwadau pellach gan y deisebydd; ac ·
i ystyried
y ddeiseb yn y dyfodol ochr yn ochr â P-04-466 (gwasanaethau iechyd gogledd
Cymru) a P-04-479 (Ysbyty Coffa Tywyn), sy'n codi nifer o'r un materion. |
||
P-04-568 Ymchwiliad Cyhoeddus i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ofyn bod y ddeiseb yn cael ei hystyried yng
ngwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar lywodraethu byrddau iechyd yn GIG
Cymru. |
||
P-04-580 Cyfyngiadau ar Roi Gwaed Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd: ·
i ofyn am
sylwadau pellach gan y deisebydd; ac ·
i anfon yr ohebiaeth
oddi wrth Wasanaeth Gwaed Cymru at y Gweinidog gan ofyn iddo ymateb i lythyr
gwreiddiol y Pwyllgor. |
||
P-04-588 Siarter ar gyfer Plant a Thadau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd: ·
i geisio
sylwadau pellach gan y Gweinidogion ar sylwadau’r deisebwyr, yn arbennig
ynghylch a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried casglu data am ymgysylltu
gwrywaidd a darparu gwybodaeth bellach ynghylch pam na ellir rhannu Rhestr
Wirio Asesu Lles Plant a’r Glasoed (CAWAC) yn ehangach; ac ·
gwneud
penderfyniad ynghylch cau’r ddeiseb. |
||
P-04-511 Cefnogi’r safonau cyfranogaeth plant a phobl Ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am sylwadau pellach
gan y deisebydd. |
||
(10.00 - 10.30) |
Sesiwn Dystiolaeth - P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru ·
Jayne
Dulson, Director NDCS Cymru ·
Elin
Wyn, Policy Adviser NDCS Cymru ·
Danyiaal
Munir, Student Cardiff & Vale College ·
Peter
Rogers, Director Sustainable Acoustics Ltd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd y
tystion canlynol gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor:
|