P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru.
P-04-466 Argyfwng Meddygol – Atal cyflwyno gwasanaeth iechyd o safon is yng ngogledd Cymru.
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Mike Parry, ar ôl casglu 306 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym
ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw’r cynigion yn ymgynghoriad Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr, Mae Gofal Iechyd yng Ngogeldd Cymru yn Newid yn
arwain at ddarpariaeth iechyd o safon is a marwolaethau a dioddefaint
dianghenraid.
Bydd y cynigion yn cael
effaith andwyol ar y rhan fwyaf o feysydd darpariaeth iechyd a gwasanaethau
brys ac ni ellir galw’r cynigion yn welliant mewn unrhyw ffordd, fel yr honnir.
Mae’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru eisoes yn mynd â’i ben iddo, a bydd yn
wynebu chwalfa lwyr os caiff y cynigion hyn eu rhoi ar waith ar eu ffurf
bresennol.Mae cynigion ymgynghori presennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr ar ofal iechyd yng ngogledd Cymru yn ymddangos yn andwyol i’r
ddarpariaeth iechyd gyffredinol ac i ddiogelwch ein cymunedau. Mae hygyrchedd,
darpariaeth pelydr-X, mân anafiadau, iechyd meddwl, y gwasanaeth ambiwlans, y
gwasanaeth tu allan i oriau a gallu meddygon teulu i ddarparu gwasanaeth
integredig yn mynd i gael eu taro’n benodol gan y cynigion – gan eu bod yn
cyferbynnu’n llwyr â gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn y dogfennau Law yn Llaw
at Iechyd, Gosod y Cyfeiriad a Cyflenwi Gwasanaethau Gofal Brys - ymddengys ei
bod hefyd yn mynd yn groes i’r “compact” a gyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ar 25
Medi 2012.
Lluniau
o feddyg a stethosgop
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/05/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i gau'r
ddeiseb a rhoi gwybodaeth bellach i'r deisebydd o ran sut y gallai fynegi ei
bryderon ynghylch yr ystyriaeth a roed eisoes i'r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 19/03/2013.
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/10/2014