P-04-610 Gwrthdroi’r Toriadau i Gronfa Arian Wrth Gefn Prifysgolion

P-04-610 Gwrthdroi’r Toriadau i Gronfa Arian Wrth Gefn Prifysgolion

Mae’r gronfa galedi a roddir i Brifysgolion gan Lywodraeth Cymru, sef y Gronfa Arian Wrth Gefn, wedi cael ei thorri ar gyfer 2014/15. Rydym yn credu bod hwn yn benderfyniad niweidiol ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi’r toriadau ar unwaith. Roedd y gronfa ariannol hon yn darparu cymorth ariannol i filoedd o fyfyrwyr oedd yn cael eu hunain mewn trafferthion ariannol yn ystod y flwyddyn, y rheiny oedd heb unrhyw fodd arall o gynnal eu hunain. Heb y gronfa hon, ni fydd myfyrwyr yn gallu fforddio astudio, gan gadarnhau’r anghydraddoldeb cymdeithasol yn system addysg Cymru. Mae’r cyhoeddiad fod y Gronfa i gael ei chwtogi hefyd yn torri ymrwymiad a wnaed gan Aelodau’r Cynulliad i fyfyrwyr yn 2011, lle bu iddynt arwyddo addewid i UCM Cymru na fyddent yn cwtogi ar y Gronfa. Rydym ni, sydd wedi arwyddo isod, eisiau i Lywodraeth Cymru wybod na fyddwn yn derbyn addewidion wedi eu torri a chwtogi pellach ar ein system addysg.

Gwybodaeth ychwanegol:

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pham fod UCM Cymru yn galw am ail-gyflwyno’r gronfa arian wrth gefn, ewch i:

http://www.nusconnect.org.uk/news/article/ucmcymru/Myfyrwyr-yn-synnu-ar-doriad-Llywodraeth-Cymru-i-gronfa-argyfwng-prifysgolion/

Dyma’r ymgeiswyr ar gyfer y Cynulliad a arwyddodd addewid Mynediad i Bobman UCM Cymru yn201: http://www.nusconnect.org.uk/asset/News/6156/Cefnogwyr-Supporters.pdf

 

Prif ddeisebydd:  NUS Wales

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  9 Rhagfyr 2014

Nifer y llofnodion:  134

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/12/2014