Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd
Amseriad disgwyliedig: 130(v7)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/04/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 13.30 Gofynnwyd
y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch ei chyfrifoldebau polisi) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.26 Gofynnwyd
y 6 chwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn
cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.20 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cynnig am Ddadl Frys o dan Reol Sefydlog 12.69 Dechreuodd yr eitem am 15.45 Leanne Wood
(Rhondda): Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria Roedd y canlyniad fel a ganlyn:
Derbyniwyd
y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.50 Gofynnwyd y 4 cwestiwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol Gofyn
i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Neil
McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl Llywodraeth Cymru
yn y cynnig arfaethedig i ailenwi’r ail bont Hafren yn bont Tywysog Cymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.05 Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth: Neil
McEvoy (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl
Llywodraeth Cymru yn y cynnig arfaethedig i ailenwi’r ail bont Hafren yn bont
Tywysog Cymru? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.16 Gwnaeth Mick Antoniw ddatganiad ar Team Wales ParaCheer a
fydd yn teithio i’r UDA i amddiffyn eu teitl o bencampwyr y byd ar 21 Ebrill. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl ynghylch adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit? NDM6704 David
Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol, 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer
Brexit?', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2018. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru ar 12 Ebrill 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.18 NDM6704
David
Rees (Aberafan) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol, 'Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?', a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2018. Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Adroddiad ymchwiliad yr Ysgrifennydd Parhaol NDM6702
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig
16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y cytunwyd arno gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018. 2. Yn gresynu at fethiant yr Ysgrifennydd Parhaol i
gydymffurfio â dymuniadau Aelodau'r Cynulliad. 3. Gan weithredu yn unol ag Adran 37(1)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod Ysgrifennydd Parhaol
Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad, gyda golygiadau priodol
i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr ymchwiliad ynghylch a
oedd unrhyw dystiolaeth y rhannodd Llywodraeth Cymru wybodaeth o flaen llaw heb
ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol diweddar. ITV
Cymru – Leak inquiry clears First Minister – 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn
unig) Wales
Online – Outside the headlines: Politics updates from Cardiff Bay, Westminster
and our town halls – 25 Ionawr 2018 (Saesneg yn unig) Llythyr
oddi wrth yr Ysgrifennydd Parhaol at bob Aelod Cynulliad – 16 Mawrth 2018 Cyflwynwyd
y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt 1. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.07 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6702 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r llythyr gan yr
Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig 16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y
cytunwyd arno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018. 2. Yn gresynu at fethiant yr
Ysgrifennydd Parhaol i gydymffurfio â dymuniadau Aelodau'r Cynulliad. 3. Gan weithredu yn unol ag
Adran 37(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn ei gwneud yn ofynnol bod
Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yn paratoi, at ddibenion y Cynulliad,
gyda golygiadau priodol i sicrhau bod tystion yn aros yn anhysbys, adroddiad yr
ymchwiliad ynghylch a oedd unrhyw dystiolaeth y rhannodd Llywodraeth Cymru
wybodaeth o flaen llaw heb ganiatâd mewn perthynas â'r ad-drefnu Gweinidogol
diweddar.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth ar ôl pwynt 1. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6702 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r llythyr gan yr
Ysgrifennydd Parhaol, dyddiedig 16 Mawrth, mewn perthynas â chynnig NDM6668 y
cytunwyd arno gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 28 Chwefror 2018.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig – Cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol NDM6703 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol o ran recriwtio athrawon mewn
ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 2. Yn gresynu at y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi
gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag achosion hyn. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor y
Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion cenedlaethol i Gymru, er
mwyn: a) dileu rhwystrau diangen i recriwtio athrawon a
hyfforddwyd dramor; b) cydnabod sgiliau athrawon profiadol a llwyddiannus
sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn ysgolion annibynnol a
cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac c) sefydlu llwybrau i addysgu ar gyfer cynorthwywyr
cymorth addysgu profiadol yng Nghymru. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu
proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan
gynnwys: a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon; b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o
ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg; c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n
fanwl; d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth
Addysgol; a e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon. [Os
derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol] Gwelliant
2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1: Yn nodi ffigyrau National Education Union Cymru sy’n
dangos bod dros 50,000 y flwyddyn o ddyddiau gwaith yn cael eu colli gan
athrawon oherwydd salwch sy’n ymwneud a straen a bod 33.6 y cant o’r
athrawon ysgol a wnaeth ymateb i arolwg gweithlu addysg cenedlaethol Cyngor y
Gweithlu Addysg yn bwriadu gadael eu proffesiwn yn ystod y tair blynedd nesaf. Arolwg
Gweithlu Addysg Cenedlaethol Cyngor y Gweithlu Addysg Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.38 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6703 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi'r argyfwng cynyddol
o ran recriwtio athrawon mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. 2. Yn gresynu at y ffaith nad
yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud digon hyd yma i fynd i'r afael ag
achosion hyn. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda Chyngor y Gweithlu Addysg i ddatblygu cynllun gweithlu ysgolion
cenedlaethol i Gymru, er mwyn: a) dileu rhwystrau diangen i
recriwtio athrawon a hyfforddwyd dramor; b) cydnabod sgiliau athrawon
profiadol a llwyddiannus sy'n gweithio mewn colegau addysg bellach, ac mewn
ysgolion annibynnol a cholegau, drwy roi statws athrawon cymwysedig iddynt; ac c) sefydlu llwybrau i addysgu
ar gyfer cynorthwywyr cymorth addysgu profiadol yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu
proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan
gynnwys: a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon; b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o
ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg; c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n
fanwl; d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth
Addysgol; a e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei
ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6703 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi gwaith parhaus Llywodraeth Cymru i ddatblygu
proffesiwn addysg o ansawdd uchel a denu’r goreuon i addysgu yng Nghymru, gan
gynnwys: a) diwygio a chryfhau Addysg Gychwynnol i Athrawon; b) cymhelliannau wedi’u targedu ar gyfer graddedigion o
ansawdd uchel mewn pynciau â blaenoriaeth ac addysg cyfrwng Cymraeg; c) ymgyrch recriwtio ddigidol barhaus wedi’i thargedu’n
fanwl; d) sefydlu’r Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth
Addysgol; a e) sefydlu Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig – Ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality NDM6697
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women Against
State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol trosiannol
teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth
pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae
newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt: a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran
pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd; b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd
eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth; c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio
erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a d) iawndal i fuddiolwyr ystadau'r rhai sydd wedi marw a
heb gael pensiwn pontio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant
1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi
terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i
ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt. Gwelliant
2. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Ym mhwynt 2, dileu “weithio gyda” a rhoi “annog” yn ei
le. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 18.11 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6697 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi ac yn croesawu
ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael
trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y
1950au y mae newidiadau i deddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio
arnynt. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a
anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn
effeithio arnynt: a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi
incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf
modd; b) iawndal am absenoldeb
pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth; c) iawndal i bawb sydd heb
ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i
adennill llog ariannol a gollwyd; a d) iawndal i fuddiolwyr yr
ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn
unol â hynny: Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i roi
terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i
ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Julie
James (Gorllewin Abertawe) Ym mhwynt 2, dileu “weithio gyda” a rhoi “annog” yn ei
le. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM6697 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: 1. Yn gresynu at ddiffyg gweithredu Llywodraeth y DU i
roi terfyn ar yr anghyfiawnder a ddioddefir gan fenywod y mae’r newidiadau i
ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt. 2. Yn nodi ac yn croesawu
ymgyrch y grŵp Women Against State Pension Inequality (WASPI) i gael
trefniadau pensiwn gwladol trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y
1950au y mae newidiadau i deddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
annog Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y
1950au y mae newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio
arnynt: a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi
incwm hyd at oedran pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf
modd; b) iawndal am absenoldeb
pensiwn pontio i'r rhai sydd eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth; c) iawndal i bawb sydd heb
ddechrau cael pensiwn pontio erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i
adennill llog ariannol a gollwyd; a d) iawndal i fuddiolwyr yr
ystadau'r rhai sydd wedi marw a heb gael pensiwn pontio.
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Frys – Leanne Wood (Rhondda): Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria Leanne Wood: Ymosodiadau awyr gan y DU yn Syria Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 19.02 |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod Pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.48 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6701 Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Sepsis – y cameleon Beth yw sepsis, sut yr ydym yn adnabod y symptomau, sut
yr ydym yn ei drin, a beth y gallwn ei wneud i arbed mwy o fywydau? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 19.53 NDM6701 Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) Sepsis – y cameleon Beth yw sepsis, sut yr
ydym yn ei gydnabod, sut yr ydym yn ei drin, a beth y gallwn ei wneud i arbed
mwy o fywydau? |