Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) - Y Bumed Senedd
Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip (ynghylch cyfrifoldebau ei phortffolio) - Y Bumed Senedd
Caiff Aelodau'r
Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip am
unrhyw fater sy'n dod o fewn ei chyfrifoldeb.
Bydd Arweinydd y
Tŷ
a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau
llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Bydd y Llywydd yn
cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob
Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r
Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad
a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar
gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.
Yn sgil
ad-drefnu’r Cabinet ar 13 Rhagfyr 2018, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
fydd bellach yn ateb cwestiynau ar y rhan fwyaf o’r materion yn y portffolio
hwn
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2017