Datganiadau 90 Eiliad
Datganiadau 90 Eiliad
Yn dilyn y cwestiynau ar ddydd Mercher, gall Aelodau
wneud datganiad personol byr. Rhaid i'r rhain fod yn fyr ac yn ffeithiol, ac
nid ydynt yn destun dadl.
Gellir eu defnyddio i dynnu sylw at unrhyw bwnc sy’n
destun pryder. Er enghraifft, gall Aelodau godi materion sy'n peri pryder mawr
i'w hetholwyr, tynnu sylw at broblemau lleol, penblwyddi neu ddyddiadau
arwyddocaol, neu dalu teyrnged i rywun.
Neilltuir cyfanswm o bum munud i’r eitem hon ac, fel yr
awgryma'r enw, ni chaiff yr un datganiad bara mwy na 90 eiliad. Mae hyn yn
caniatáu i dri Aelod wneud datganiadau bob wythnos, a chaiff y rhain eu dewis
ymlaen llaw gan y Llywydd.
Math o fusnes: Datganiad
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Cyhoeddwyd yr adroddiad
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/01/2017