Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad - Y Bumed Senedd

Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad - Y Bumed Senedd

Caiff Aelodau’r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar i Gomisiynwyr y Cynulliad am unrhyw fater sy’n rhan o’u meysydd cyfrifoldeb.

 

Bydd y Comisiynwyr yn ateb cwestiynau bob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cyfarfod mewn Cyfarfod Llawn. Caiff cwestiynau llafar eu hateb yn ystod sesiwn gwestiynau ddynodedig yn  y Cyfarfod Llawn. 

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu ar enwau’r Aelodau a gaiff gyflwyno’r cwestiynau. Gellir cynnwys enw unrhyw Aelod yn y balot.

 

Ar ôl dewis yr enwau, rhaid i’r Aelodau gyflwyno’u cwestiynau o leiaf bum diwrnod cyn y disgwylir iddynt gael eu hateb. Caiff y drefn y gofynnir y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn ei phennu ar hap gan gyfrifiadur.

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/06/2016