Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 70(v3)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/05/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cofnod y Trafodion Gweld
Cofnod
y Trafodion |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd cwestiynau 1 – 2 a 4 - 9. Tynnwyd cwestiwn 3 yn
ôl. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Gwahoddodd y
Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Bydd
y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i
Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 14.22 Gofynnwyd
y 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i
gilydd. Atebwyd cwestiynau 3 a 7 gan Weinidog
Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y
pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl
cwestiwn 2. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol I Ysgrifennydd
y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Eluned
Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet
ei roi bod y seilwaith TG yng Nghymru wedi’i ddiogelu, a sicrhau gofal parhaus
i gleifion Cymru yn dilyn yr ymosodiadau seibr yn y GIG yn Lloegr?
TAQ(5)0173(HWS) I Ysgrifennydd
y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad
am y 1,761 o geisiadau Glastir sydd heb eu talu o hyd? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.14 I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi bod y seilwaith TG yng
Nghymru wedi’i ddiogelu, a sicrhau gofal parhaus i gleifion Cymru yn dilyn yr
ymosodiadau seibr yn y GIG yn Lloegr? TAQ(5)0173(HWS) I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y 1,761 o geisiadau Glastir
sydd heb eu talu o hyd? |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 15.28 Gwnaeth
Hannah Blythyn ddatganiad ar y Diwrnod Rhyngwladol yn Erbyn Homoffobia,
Deuffobia a Thrawsffobia. Gwnaeth
Simon Thomas ddatganiad ar Bioamrywiaeth
ym Mhenparcau. Gwnaeth
David Rees ddatganiad ar y Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod NDM6301 Dawn Bowden
(Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai (Cymru) 2014. 2.
Yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy'n disgwyl cydnabyddiaeth am
hyn ar ffurf manteision rhywiol. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.33 Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. NDM6301 Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer gwelliant i Ddeddf Tai
(Cymru) 2014. 2. Yn nodi mai diben y gwelliant fyddai gwahardd
hysbysebu eiddo yn ddi-rent gan landlordiaid sy'n disgwyl cydnabyddiaeth am hyn
ar ffurf manteision rhywiol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
Derbyniwyd y cynnig. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig NDM6305 Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn cydnabod yr amryfal risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio'r
rhyngrwyd. 2.
Yn nodi pwysigrwydd enfawr cymryd camau i sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n
ddiogel ar-lein, a'u haddysgu o ran y camau y dylent eu cymryd er mwyn helpu i
ddiogelu eu hunain wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ymateb cynhwysfawr i bryderon a godwyd
gan yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant), ynghylch
cynnydd mewn galwadau cysylltiedig y mae wedi'u cael o ran diogelwch ar y
rhyngrwyd. 4.
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod blaenoriaethu diogelwch
ar-lein yn rhan ganolog o bob strategaeth sy'n anelu at ddarparu cymunedau mwy
diogel i blant ledled Cymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail rifo yn unol â hynny: Yn
nodi pwysigrwydd llythrennedd ddigidol i Gymru, a bod annog defnydd diogel o'r
rhyngrwyd yn rhan hanfodol o addysg plentyn. Gwelliant 2.
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda'r cwmnïau perthnasol i fynd i'r afael â
cham-drin ar-lein, gan nodi'n arbennig y cam-drin y mae menywod a grwpiau
lleiafrifol yn ei ddioddef. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.03 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6305
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr amryfal risgiau y mae plant yn eu
hwynebu wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd. 2. Yn nodi pwysigrwydd enfawr cymryd camau i
sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel ar-lein, a'u haddysgu o ran y camau
y dylent eu cymryd er mwyn helpu i ddiogelu eu hunain wrth ddefnyddio'r
rhyngrwyd. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ymateb
cynhwysfawr i bryderon a godwyd gan yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal
Creulondeb i Blant), ynghylch cynnydd mewn galwadau cysylltiedig y mae wedi'u
cael o ran diogelwch ar y rhyngrwyd. 4. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
bod blaenoriaethu diogelwch ar-lein yn rhan ganolog o bob strategaeth sy'n anelu
at ddarparu cymunedau mwy diogel i blant ledled Cymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail
rifo yn unol â hynny: Yn nodi pwysigrwydd llythrennedd ddigidol i Gymru,
a bod annog defnydd diogel o'r rhyngrwyd yn rhan hanfodol o addysg plentyn. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda'r cwmnïau
perthnasol i fynd i'r afael â cham-drin ar-lein, gan nodi'n arbennig y cam-drin
y mae menywod a grwpiau lleiafrifol yn ei ddioddef. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6305
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod yr amryfal risgiau y mae plant yn eu
hwynebu wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd. 2. Yn nodi pwysigrwydd llythrennedd ddigidol i
Gymru, a bod annog defnydd diogel o'r rhyngrwyd yn rhan hanfodol o addysg
plentyn. 3. Yn nodi pwysigrwydd enfawr cymryd camau i
sicrhau bod plant yn cael eu cadw'n ddiogel ar-lein, a'u haddysgu o ran y camau
y dylent eu cymryd er mwyn helpu i ddiogelu eu hunain wrth ddefnyddio'r
rhyngrwyd. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu ymateb
cynhwysfawr i bryderon a godwyd gan yr NSPCC (Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal
Creulondeb i Blant), ynghylch cynnydd mewn galwadau cysylltiedig y mae wedi'u
cael o ran diogelwch ar y rhyngrwyd. 5. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i sicrhau
bod blaenoriaethu diogelwch ar-lein yn rhan ganolog o bob strategaeth sy'n anelu
at ddarparu cymunedau mwy diogel i blant ledled Cymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6308 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi anawsterau parhaus o ran hyfforddi a recriwtio staff meddygol (gan gynnwys
meddygon) mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig Cymru wledig a gogledd Cymru. 2.
Yn galw am ddatblygu ysgol feddygol ym Mangor fel rhan o ddatblygiad Cymru
gyfan tuag at gynyddu hyfforddiant, recriwtio a chadw meddygon yng Nghymru. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn croesawu ymgyrch recriwtio Llywodraeth Cymru Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio
Byw sy'n annog gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon, i
ddewis Cymru fel lle i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. 2.
Yn nodi: a)
y cafwyd cynnydd o 19 y cant yn y gyfradd ymgeisio ar gyfer hyfforddiant mewn
meysydd arbenigol i feddygon teulu yn 2017 a bod 84 y cant o'r llefydd
hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi'u llenwi ers i Gwlad Gwlad: Hyfforddi
Gweithio Byw gael ei lansio, o'i gymharu â 68 y cant ar y cam hwn yn 2016; b)
bod mwy na 1,000 yn rhagor o ymgynghorwyr cyfwerth ag amser llawn yn gweithio
yng Nghymru yn 2016 nag oedd ym 1999; ac c)
y cafwyd cynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon teulu oedd yn gweithio yng
Nghymru rhwng 1999 a 2016. Gwelliant 2.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau iechyd ac addysg ar ddwy
ochr y ffin i lunio rhaglen feddygol fwy cynhwysfawr ac ehangach ar gyfer
gogledd Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.55 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6308 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi anawsterau parhaus o ran hyfforddi a
recriwtio staff meddygol (gan gynnwys meddygon) mewn sawl rhan o Gymru, yn
enwedig Cymru wledig a gogledd Cymru. 2. Yn galw am ddatblygu ysgol feddygol ym Mangor fel
rhan o ddatblygiad Cymru gyfan tuag at gynyddu hyfforddiant, recriwtio a chadw
meddygon yng Nghymru.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn croesawu ymgyrch recriwtio Llywodraeth Cymru
Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw sy'n annog gweithwyr gofal iechyd
proffesiynol, gan gynnwys meddygon, i ddewis Cymru fel lle i hyfforddi,
gweithio a byw ynddo. 2. Yn nodi: a) y cafwyd cynnydd o 19 y cant yn y gyfradd
ymgeisio ar gyfer hyfforddiant mewn meysydd arbenigol i feddygon teulu yn 2017
a bod 84 y cant o'r llefydd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi'u llenwi ers
i Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw gael ei lansio, o'i gymharu â 68 y cant
ar y cam hwn yn 2016; b) bod mwy na 1,000 yn rhagor o ymgynghorwyr
cyfwerth ag amser llawn yn gweithio yng Nghymru yn 2016 nag oedd ym 1999; ac c) y cafwyd cynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon
teulu oedd yn gweithio yng Nghymru rhwng 1999 a 2016. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda
sefydliadau iechyd ac addysg ar ddwy ochr y ffin i lunio rhaglen feddygol fwy
cynhwysfawr ac ehangach ar gyfer gogledd Cymru. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Derbyniwyd gwelliant 2. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6308 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu ymgyrch recriwtio Llywodraeth Cymru
Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw sy'n annog gweithwyr gofal iechyd
proffesiynol, gan gynnwys meddygon, i ddewis Cymru fel lle i hyfforddi,
gweithio a byw ynddo. 2. Yn nodi: a) y cafwyd cynnydd o 19 y cant yn y gyfradd
ymgeisio ar gyfer hyfforddiant mewn meysydd arbenigol i feddygon teulu yn 2017
a bod 84 y cant o'r llefydd hyfforddi ar gyfer meddygon teulu wedi'u llenwi ers
i Gwlad Gwlad: Hyfforddi Gweithio Byw gael ei lansio, o'i gymharu â 68 y cant
ar y cam hwn yn 2016; b) bod mwy na 1,000 yn rhagor o ymgynghorwyr
cyfwerth ag amser llawn yn gweithio yng Nghymru yn 2016 nag oedd ym 1999; ac c) y cafwyd cynnydd o 12 y cant yn nifer y meddygon
teulu oedd yn gweithio yng Nghymru rhwng 1999 a 2016. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda
sefydliadau iechyd ac addysg ar ddwy ochr y ffin i lunio rhaglen feddygol fwy
cynhwysfawr ac ehangach ar gyfer gogledd Cymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(30 munud) |
Dadl Plaid Cymru NDM6310 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn nodi bod Gwerth Ychwanegol Gros y pen yn ardaloedd NUTS2 y cymoedd canolog a
chymoedd Gwent yn gyson is na chyfartaledd Cymru. 2.
Yn nodi bod diweithdra yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol cymoedd de Cymru yn
uwch na chyfartaledd Cymru. 3.
Yn nodi bod ansicrwydd o ran gwaith, cyflogau isel a thlodi yn broblemau
sylweddol yng nghymoedd de Cymru. 4.
Yn nodi hanes o danfuddsoddi yng nghymoedd de Cymru gan Lywodraethau Cymru a'r
DU. 5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a)
creu Asiantaeth Ddatblygu'r Cymoedd sydd â'r grym a'r atebolrwydd priodol; b)
gwneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch prosiect Cylchffordd Cymru, yn amodol
ar y diwydrwydd dyladwy arferol; ac c)
rhoi mwy o flaenoriaeth o ran buddsoddiad mewn swyddi a seilwaith yn y cymoedd. Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1.
Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn cydnabod effaith rhaglen barhaus Llywodraeth y DU o gyni ar gymunedau
cymoedd de Cymru a gweddill Cymru, ac yn galw ar lywodraeth nesaf San Steffan i
fuddsoddi mewn twf economaidd mwy cytbwys ar draws y DU. 2.
Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n genedl deg o ran swyddi lle y
gall pawb fanteisio ar well swyddi sy'n nes at eu cartrefi. 3.
Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru o ran: a)
cefnogi bron i 150,000 o swyddi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf. Roedd
llawer o'r swyddi hyn yng nghymunedau'r cymoedd; b)
paratoi dull newydd o fynd i'r afael â datblygu economaidd er mwyn ysgogi twf
rhanbarthol mwy cadarn; c)
cynllunio buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith yn y cymoedd ac ar draws Cymru
mewn modd sy'n cefnogi economïau rhanbarthol mwy cydnerth ac sy'n atgyfnerthu
cadwyni cyflenwi lleol; d)
sefydlu Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De Cymru sy'n cydweithio â
chymunedau lleol er mwyn denu swyddi newydd, codi lefelau sgiliau a gwella
gwasanaethau lleol; e)
datblygu rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adre gan ddefnyddio ysgogiadau caffael
i greu swyddi o werth mewn ardaloedd ag anghenion economaidd, fel y cymoedd; ac f)
sefydlu Comisiwn Gwaith Teg er mwyn helpu i greu economi lle y gall mwy o bobl
yng nghymunedau'r cymoedd ac ar draws Cymru fanteisio ar swyddi da ac incwm
sefydlog. [Os
derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol] Gwelliant 2.
Paul Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu
pwynt 4 a rhoi yn ei le: Yn
nodi'r gwaith y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i ddatblygu dinas-ranbarth
Abertawe a phrifddinas-ranbarth Caerdydd, a fydd yn cynnig llawer o gyfleoedd
cadwyn gyflenwi i gymoedd de Cymru. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
17.26 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6310 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi bod Gwerth Ychwanegol Gros y pen yn
ardaloedd NUTS2 y cymoedd canolog a chymoedd Gwent yn gyson is na chyfartaledd
Cymru. 2. Yn nodi bod diweithdra yn y rhan fwyaf o
awdurdodau lleol cymoedd de Cymru yn uwch na chyfartaledd Cymru. 3. Yn nodi bod ansicrwydd o ran gwaith, cyflogau
isel a thlodi yn broblemau sylweddol yng nghymoedd de Cymru. 4. Yn nodi hanes o danfuddsoddi yng nghymoedd de
Cymru gan Lywodraethau Cymru a'r DU. 5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i: a) creu Asiantaeth Ddatblygu'r Cymoedd sydd â'r
grym a'r atebolrwydd priodol; b) gwneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch prosiect
Cylchffordd Cymru, yn amodol ar y diwydrwydd dyladwy arferol; ac c) rhoi mwy o flaenoriaeth o ran buddsoddiad mewn
swyddi a seilwaith yn y cymoedd.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Jane
Hutt (Bro Morgannwg) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn cydnabod effaith rhaglen barhaus Llywodraeth
y DU o gyni ar gymunedau cymoedd de Cymru a gweddill Cymru, ac yn galw ar
lywodraeth nesaf San Steffan i fuddsoddi mewn twf economaidd mwy cytbwys ar
draws y DU. 2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n
genedl deg o ran swyddi lle y gall pawb fanteisio ar well swyddi sy'n nes at eu
cartrefi. 3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru o ran: a) cefnogi bron i 150,000 o swyddi yn ystod tymor y
Cynulliad diwethaf. Roedd llawer o'r swyddi hyn yng nghymunedau'r cymoedd; b) paratoi dull newydd o fynd i'r afael â datblygu
economaidd er mwyn ysgogi twf rhanbarthol mwy cadarn; c) cynllunio buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith
yn y cymoedd ac ar draws Cymru mewn modd sy'n cefnogi economïau rhanbarthol mwy
cydnerth ac sy'n atgyfnerthu cadwyni cyflenwi lleol; d) sefydlu Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De
Cymru sy'n cydweithio â chymunedau lleol er mwyn denu swyddi newydd, codi
lefelau sgiliau a gwella gwasanaethau lleol; e) datblygu rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adre gan
ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu swyddi o werth mewn ardaloedd ag anghenion
economaidd, fel y cymoedd; ac f) sefydlu Comisiwn Gwaith Teg er mwyn helpu i greu
economi lle y gall mwy o bobl yng nghymunedau'r cymoedd ac ar draws Cymru
fanteisio ar swyddi da ac incwm sefydlog. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Gan fod gwelliant
1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6310 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn cydnabod effaith rhaglen barhaus Llywodraeth
y DU o gyni ar gymunedau cymoedd de Cymru a gweddill Cymru, ac yn galw ar
lywodraeth nesaf San Steffan i fuddsoddi mewn twf economaidd mwy cytbwys ar
draws y DU. 2. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i wneud Cymru'n
genedl deg o ran swyddi lle y gall pawb fanteisio ar well swyddi sy'n nes at eu
cartrefi. 3. Yn nodi gwaith Llywodraeth Cymru o ran: a) cefnogi bron i 150,000 o swyddi yn ystod tymor y
Cynulliad diwethaf. Roedd llawer o'r swyddi hyn yng nghymunedau'r cymoedd; b) paratoi dull newydd o fynd i'r afael â datblygu
economaidd er mwyn ysgogi twf rhanbarthol mwy cadarn; c) cynllunio buddsoddiadau sylweddol mewn seilwaith
yn y cymoedd ac ar draws Cymru mewn modd sy'n cefnogi economïau rhanbarthol mwy
cydnerth ac sy'n atgyfnerthu cadwyni cyflenwi lleol; d) sefydlu Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd De
Cymru sy'n cydweithio â chymunedau lleol er mwyn denu swyddi newydd, codi
lefelau sgiliau a gwella gwasanaethau lleol; e) datblygu rhaglen Swyddi Gwell yn Nes at Adre gan
ddefnyddio ysgogiadau caffael i greu swyddi o werth mewn ardaloedd ag anghenion
economaidd, fel y cymoedd; ac f) sefydlu Comisiwn Gwaith Teg er mwyn helpu i greu
economi lle y gall mwy o bobl yng nghymunedau'r cymoedd ac ar draws Cymru
fanteisio ar swyddi da ac incwm sefydlog.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
(60 munud) |
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig NDM6309 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn credu, er bod achos dros gefnogi cymorth dyngarol a brys i wledydd eraill,
yn arbennig mewn argyfyngau penodol, nad yw'n gwneud synnwyr bod y gyllideb
cymorth dramor yn aros ar 0.7 y cant o incwm cenedlaethol gros (GNI). 2.
Yn nodi bod dyled genedlaethol y DU wedi dyblu ers 2009, a'i bod, bellach, yn
£1.6 triliwn, sy'n gyfystyr â £22,000 ar gyfer pob dyn, menyw a phlentyn yn y
DU. 3.
Yn credu bod angen ystyried llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth wneud pob
penderfyniad gwariant cyhoeddus ac y dylai Llywodraeth y DU werthuso'r gyllideb
cymorth dramor yng nghyd-destun anghenion pwysig eraill gartref. 4.
Yn galw am ddiddymu Deddf Datblygu Rhyngwladol (Targed Cymorth Datblygu
Swyddogol) 2015, a oedd yn y diogelu'r ffigur targed o 0.7 y cant yng
nghyfraith y DU. 5.
Yn credu bod llawer o'r gyllideb cymorth dramor yn cael ei gwastraffu, yn cael
ei dargyfeirio gan lygredd ac yn cael ei gwario'n anghynhyrchiol. 6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ostwng y gwariant targed
ar gymorth dramor i 0.2 y cant o'r GNI, sy'n debyg i gyllidebau cymorth yr Unol
Daleithiau, yr Eidal a Sbaen. 7.
Yn credu y dylai'r £8 biliwn o arbedion a fyddai'n cael eu rhyddhau gael eu
dargyfeirio'n gyfrannol i wledydd y DU a chael eu gwario ar achosion
haeddiannol fel y GIG neu dai cymdeithasol. ‘International
Development (Official Development Assistance Target) Act 2015’ Cyflwynwyd y
gwelliant a ganlyn: Gwelliant 1.
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu
popeth a rhoi yn ei le: 1.
Yn nodi pwysigrwydd cymorth rhyngwladol o ran lleddfu dioddefaint dynol. 2.
Yn cefnogi cyfraniad Cymru i brosiectau dyngarol drwy fentrau fel Cymru o Blaid
Affrica. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi polisi rhyngwladol cynhwysfawr
i Gymru sy'n cynnwys gwella gweithgareddau cymorth rhyngwladol y genedl. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
18.00 Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: NDM6309 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn credu, er bod achos dros gefnogi cymorth
dyngarol a brys i wledydd eraill, yn arbennig mewn argyfyngau penodol, nad yw'n
gwneud synnwyr bod y gyllideb cymorth dramor yn aros ar 0.7 y cant o incwm
cenedlaethol gros (GNI). 2. Yn nodi bod dyled genedlaethol y DU wedi dyblu
ers 2009, a'i bod, bellach, yn £1.6 triliwn, sy'n gyfystyr â £22,000 ar gyfer
pob dyn, menyw a phlentyn yn y DU. 3. Yn credu bod angen ystyried llesiant
cenedlaethau'r dyfodol wrth wneud pob penderfyniad gwariant cyhoeddus ac y
dylai Llywodraeth y DU werthuso'r gyllideb cymorth dramor yng nghyd-destun
anghenion pwysig eraill gartref. 4. Yn galw am ddiddymu Deddf Datblygu Rhyngwladol
(Targed Cymorth Datblygu Swyddogol) 2015, a oedd yn y diogelu'r ffigur targed o
0.7 y cant yng nghyfraith y DU. 5. Yn credu bod llawer o'r gyllideb cymorth dramor
yn cael ei gwastraffu, yn cael ei dargyfeirio gan lygredd ac yn cael ei
gwario'n anghynhyrchiol. 6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth
y DU i ostwng y gwariant targed ar gymorth dramor i 0.2 y cant o'r GNI, sy'n
debyg i gyllidebau cymorth yr Unol Daleithiau, yr Eidal a Sbaen. 7. Yn credu y dylai'r £8 biliwn o arbedion a
fyddai'n cael eu rhyddhau gael eu dargyfeirio'n gyfrannol i wledydd y DU a
chael eu gwario ar achosion haeddiannol fel y GIG neu dai cymdeithasol.
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn) Dileu popeth a rhoi yn ei le: 1. Yn nodi pwysigrwydd cymorth rhyngwladol o ran
lleddfu dioddefaint dynol. 2. Yn cefnogi cyfraniad Cymru i brosiectau dyngarol
drwy fentrau fel Cymru o Blaid Affrica. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi
polisi rhyngwladol cynhwysfawr i Gymru sy'n cynnwys gwella gweithgareddau
cymorth rhyngwladol y genedl. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio: NDM6309 Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi pwysigrwydd cymorth rhyngwladol o ran
lleddfu dioddefaint dynol. 2. Yn cefnogi cyfraniad Cymru i brosiectau dyngarol
drwy fentrau fel Cymru o Blaid Affrica. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio a chyhoeddi
polisi rhyngwladol cynhwysfawr i Gymru sy'n cynnwys gwella gweithgareddau
cymorth rhyngwladol y genedl.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Dechreuodd
yr eitem am 19.05 |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Dadl Fer - SYMUDWYD I 16 MAI NDM6307 Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) Tanau
trydan - bygythiad cynyddol yn yr oes dechnolegol sydd ohoni. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||
Crynodeb o Bleidleisiau Dogfennau ategol: |