NDM6309 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6309 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6309 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu, er bod achos dros gefnogi cymorth dyngarol a brys i wledydd eraill, yn arbennig mewn argyfyngau penodol, nad yw'n gwneud synnwyr bod y gyllideb cymorth dramor yn aros ar 0.7 y cant o incwm cenedlaethol gros (GNI).

2. Yn nodi bod dyled genedlaethol y DU wedi dyblu ers 2009, a'i bod, bellach, yn £1.6 triliwn, sy'n gyfystyr â £22,000 ar gyfer pob dyn, menyw a phlentyn yn y DU.

3. Yn credu bod angen ystyried llesiant cenedlaethau'r dyfodol wrth wneud pob penderfyniad gwariant cyhoeddus ac y dylai Llywodraeth y DU werthuso'r gyllideb cymorth dramor yng nghyd-destun anghenion pwysig eraill gartref.

4. Yn galw am ddiddymu Deddf Datblygu Rhyngwladol (Targed Cymorth Datblygu Swyddogol) 2015, a oedd yn y diogelu'r ffigur targed o 0.7 y cant yng nghyfraith y DU.

5. Yn credu bod llawer o'r gyllideb cymorth dramor yn cael ei gwastraffu, yn cael ei dargyfeirio gan lygredd ac yn cael ei gwario'n anghynhyrchiol.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ostwng y gwariant targed ar gymorth dramor i 0.2 y cant o'r GNI, sy'n debyg i gyllidebau cymorth yr Unol Daleithiau, yr Eidal a Sbaen.

7. Yn credu y dylai'r £8 biliwn o arbedion a fyddai'n cael eu rhyddhau gael eu dargyfeirio'n gyfrannol i wledydd y DU a chael eu gwario ar achosion haeddiannol fel y GIG neu dai cymdeithasol.

International Development (Official Development Assistance Target) Act 2015

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2017

Angen Penderfyniad: 17 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd