NDM6310 - Dadl Plaid Cymru
NDM6310 - Dadl Plaid Cymru
NDM6310 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn nodi bod Gwerth Ychwanegol Gros y pen yn ardaloedd NUTS2 y cymoedd canolog a
chymoedd Gwent yn gyson is na chyfartaledd Cymru.
2.
Yn nodi bod diweithdra yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol cymoedd de Cymru yn
uwch na chyfartaledd Cymru.
3.
Yn nodi bod ansicrwydd o ran gwaith, cyflogau isel a thlodi yn broblemau
sylweddol yng nghymoedd de Cymru.
4.
Yn nodi hanes o danfuddsoddi yng nghymoedd de Cymru gan Lywodraethau Cymru a'r
DU.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
creu Asiantaeth Ddatblygu'r Cymoedd sydd â'r grym a'r atebolrwydd priodol;
b)
gwneud penderfyniad cadarnhaol ynghylch prosiect Cylchffordd Cymru, yn amodol
ar y diwydrwydd dyladwy arferol; ac
c)
rhoi mwy o flaenoriaeth o ran buddsoddiad mewn swyddi a seilwaith yn y cymoedd.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2017
Angen Penderfyniad: 17 Mai 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd