Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
||
(9.00 - 9.15) |
Deisebau newydd |
|
P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a’r ·
holl Fyrddau Iechyd Lleol i
ofyn eu barn am y ddeiseb. |
||
P-04-533 Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
Tai ac Adfywio i ofyn ei farn am y ddeiseb. |
||
P-04-534 Ymgyrch i ddiogelu YSBYTY ABERTEIFI Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a ·
Bwrdd Iechyd Hywel Dda i
ofyn eu barn am y ddeiseb. Cytunodd
Joyce Watson AC i roi copi i'r Pwyllgor o ohebiaeth ddiweddar a dderbyniodd yn
rhinwedd ei swydd fel Aelod Cynulliad, sy'n ymwneud â'r materion yn y ddeiseb. |
||
(9.15 - 10.30) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty Dogfennau ategol: |
||
P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip Dogfennau ategol: |
||
P-04-430 Y bwriad i gau Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod Dogfennau ategol: |
||
P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd Dogfennau ategol: |
||
P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:
|
||
P-04-502 Canolfan Lles ar gyfer Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y
deisebwyr am lythyr y Gweinidog. |
||
P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
|
||
P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
gadw golwg tan yr adolygiad o'r rheoliadau presennol; ac ·
anfon copïau at y Gweinidog o'r holl ymatebion a ddaeth i law
gan y deisebydd a'r rhanddeiliaid yn ystod y drafodaeth ar y ddeiseb i helpu
gyda'r adolygiad. |
||
P-03-263 Rhestru Parc y Strade Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i: ·
gau'r ddeiseb yn sgîl datganiad y Gweinidog nad oes llawer
rhagor y gellir ei wneud, ac ·
ysgrifennu at Gyngor Sir Caerfyrddin yn mynegi pryder
ynghylch ei ymateb i'r Pwyllgor. |
||
P-04-509 Achub Canolfan Tennis Genedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn Cyngor
Dinas Caerdydd am y cynigion a'r model cyfranogiad a amlinellwyd gan Tennis
Cymru, ac i ofyn a fyddai’n barod i ystyried gweithio gyda Tennis Cymru yn y
modd a awgrymir yn y llythyr at y Pwyllgor.
Nododd Aelodau'r Pwyllgor hefyd y byddent, pe byddai hynny'n
angenrheidiol, ar gael ar gyfer cyfarfod gyda Chanolfan Tennis Abertawe. |
||
P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb. Er
bod Pwyllgor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i fod i ystyried rhestru'r
safle yn lleol ar 7 Chwefror, cafwyd ar ddeall bod hyn bellach wedi'i ohirio am
fis. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu
at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa. |
||
P-04-397 Cyflog Byw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf ar y cynnydd ar ôl i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ystyried y
mater ym mis Mawrth. |
||
P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y
deisebwyr ac aros am gadarnhad gan y Gweinidog o'r camau y mae'n bwriadu eu
cymryd. |
||
P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd Dogfennau ategol: |
||
P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo Dogfennau ategol: |
||
P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i gynnal ‘ymchwiliad’
byr ar y mater hwn. |
||
P-04-498 Addysgu Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na
chafwyd ymateb gan y deisebydd. |
||
P-04-499 Rhoi Hwb i Gwricwlwm yr Iaith Gymraeg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r Gweinidog am ei ymateb i sylwadau pellach y
deisebydd; ac ·
anfon copi at y deisebydd o'r trawsgrifiad o'r ddadl
ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn a chopi o ddatganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog
ar 3 Chwefror. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5 Cofnodion: Derbyniodd
y Pwyllgor y cynnig. |
||
(10.30- 11.00) |
Trafod y flaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd
yr Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor. |