P-04-431 : Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd

P-04-431 : Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd

 

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tîm Achub Ysbyty Llwynhelyg.

Casglwyd deiseb gysylltiedig tua 14,000 o lofnodion. O’r 14,000 o lofnodion, casglwyd dros 10,000 ohonynt ar gyfer deiseb a oedd yn galw yn benodol am achub yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg, a chasglwyd 4,000 o lofnodion ar gyfer deisebau a oedd yn galw am ddiogelu pob gwasanaeth yn Ysbyty Llwynhelyg.

Geiriad y ddeiseb

Mae SWAT (Tîm Gweithredu i Achub Ysbyty Llwynhelyg) wedi brwydro i gadw gwasanaethau gofal iechyd eilaidd diogel, effeithiol a hygyrch i bobl Sir Benfro ers 2005.

    

Ar ran SWAT, galwaf ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynlluniau ar gyfer darparu Gofal Iechyd Eilaidd, y mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal arnynt ar hyn o bryd yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, yn cynnal y lefel bresennol o wasanaethau sydd ar gael yn Ysbyty Llwynhelyg. Nid yw’r 14,000 o bobl a lofnododd y deisebau a ddosbarthwyd i’ch swyddfa gan SWAT yn cytuno â’r opsiwn a ffefrir, sef bod Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn canoli’r rhan fwyaf o wasanaethau cleifion mewnol yn safle Glangwili. Mae’n eithaf clir i bobl Sir Benfro a thu hwnt sydd wedi llofnodi’r deisebau hyn, os oes yn rhaid canoli gwasanaethau, mai Ysbyty Llwynhelyg yw’r safle y dylid ei ffafrio. Byddai hyn yn sicrhau darparu gwasanaeth gofal iechyd eilaidd teg, hygyrch, diogel a chynaliadwy i ardal gyfan Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda tra byddai canoli gwasanaethau yn safle Glangwili yn rhoi pobl Sir Benfro o dan anfantais ddifrifol.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/04/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb oherwydd yr amser sydd wedi mynd heibio ers i'r deisebwyr gysylltu ddiwethaf â'r Pwyllgor.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/11/2012.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Preseli Sir Benfro

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2017