P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip

P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rhwydwaith Gweithredu Tywysog Philip, ar ôl casglu tua 24,000 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, pobl Llanelli, y dref â’r boblogaeth fwyaf yn ardal Hywel Dda, yn mynnu bod Ysbyty Tywysog Philip yn cael ei adfer yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth cwbl weithredol, a bod llawfeddygaeth ddewisol fawr yn dychwelyd yno, gan gynnwys llawfeddygaeth gastroberfeddol, fasgwlaidd, ac ym meysydd wroleg, gynecoleg a thrawma. Byddai hynny wedi’i gefnogi gan y 5 gwely Uned Therapi Dwys gwreiddiol, a fyddai wedi’u staffio’n llawn, ac a fyddai’n cefnogi Adran Damweiniau ac Achosion Brys wedi’i staffio’n llawn, y byddai arbenigwyr ymgynghorol yn ei harwain, gan ddarparu cymorth i’r meddygon.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/04/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor ymateb gan y deisebwr a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebwyr am ymgysylltu â'r broses ddeisebu.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 29/05/2012

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Llanelli

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/04/2017