P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru
P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o arian ar gyfer gwasanaethau bysiau, er
mwyn iddi ymlynu wrth amcanion ei pholisi ei hun o leihau tlodi ac allgáu, a sicrhau
nad yw pobl ar draws Cymru o dan unrhyw anfantais cymdeithasol nac economaidd
oherwydd eu lleoliad.
Gwybodaeth ychwanegol:
Nod y ddeiseb hon yw cynyddu’r arian a gaiff ei roi i
ardaloedd anghysbell, a than anfantais yng Nghymru. Mae nifer o ardaloedd
awdurdodau lleol wedi gorfod lleihau amlder y bysiau a’r dewis o lwybrau bysiau
sydd ar gael ers i’r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei
gyflwyno. Mae nifer o breswylwyr yn teimlo’n ynysig oherwydd hwn, yn arbennig
ar benwythnosau ac ar ddyddiau gŵyl banc.
Prif ddeisebydd: Daniel Thomas
Ysytyriwyd
am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 11 Tachwedd 2013
Nifer
y llofnodion: 246
Statws
Yn ei gyfarfod ar 07/03/2017 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb ar y sail nad yw'n
bosibl i fwrw ymlaen â'r mater o ystyried yr anhawster o ran cysylltu â'r
deisebydd, a'r ffaith bod y ddeiseb wedi cael ei hystyried fel rhan o
ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes i Fysiau a Chludiant Cymunedol yn y
Pedwerydd Cynulliad.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2013