Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/11/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan. |
|
(09.30 - 10.15) |
Sesiwn gydag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru Mae dydd Mercher 20 Tachwedd 2019 yn nodi 30 mlynedd ers i Gonfensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) agor ar gyfer llofnodwyr. I
nodi'r achlysur hwn, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) wedi
gwahodd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru (SIC) i sesiwn gyhoeddus i drafod
blaenoriaethau SIC a gwaith ei Haelodau ar ymchwiliad y Pwyllgor PPIA i hawliau
plant. Cynrychiolwyr
Senedd Ieuenctid Betsan Roberts, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros
Ogledd Caerdydd Todd Murray, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros
Ben-y-bont ar Ogwr Ffion Griffith, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros
Islwyn Maisy Evans, Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Dorfaen Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru,
a nododd fod y sesiwn wedi'i threfnu i nodi 30 mlynedd ers i Gonfensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn agor ar gyfer llofnodwyr. 2.2. Croesawodd y Cadeirydd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y
Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Gwahoddwyd ef i ymuno â'r
sesiwn gan fod gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn berthnasol i bob pwyllgor. 2.3 Trafododd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru eu
blaenoriaethau gyda'r Pwyllgor, a'u gwaith ar ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl
Ifanc ac Addysg i Hawliau Plant. |
|
(10.15) |
Papur i’w nodi Cofnodion: 3.1
Nodwyd y papurau. |
|
Llythyr at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth - Anghenion Dysgu Ychwanegol a thrafnidiaeth Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg - y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i dri o'r argymhellion yn adroddiad y Pwyllgor ar statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at y Gweinidog Addysg ynghylch y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Gyllido Ysgolion Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Asesiadau o’r Effaith ar Hawliau Plant Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Plant sy'n derbyn gofal Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru - gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn graffu ar 6 Tachwedd ynghylch yr adroddiad blynyddol ar gyfer 2018-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr ar y cyd gan yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant a Plant yng Nghymru – gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 16 Hydref ynghylch hawliau plant yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Weinidogion Llywodraeth Cymru ynghylch y datganiad ar y cyd ar yr adolygiad arfaethedig o deithio gan ddysgwyr ôl-16 Dogfennau ategol: |
||
(10.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.30 - 11.30) |
Ymchwiliad i hawliau plant yng Nghymru - trafod y materion allweddol Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol, a
chytuno y byddai'r adroddiad drafft yn cael ei drafod eto yn y cyfarfod ar 16
Ionawr 2020. |