Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF
999KB) Gweld fel HTML
(999KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2. Roedd David
Melding AC yn dirprwyo ar ran Janet Finch-Saunders AC ar gyfer eitemau 3 a 6. 1.3. Datganodd yr
Aelodau a ganlyn fuddiannau perthnasol fel aelodau o undebau:
|
||
(09.15 - 10.30) |
Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – diwygio Llywodraeth Leol Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a
Llywodraeth Leol Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Llywodraeth Leol:
Trawsffurfio a Phartneriaethau Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-adran
Democratiaeth Llywodraeth Leol Papur
Gwyn ar Ddiwygio Llywodraeth Leol: Cadernid ac Adnewyddiad Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth
gan: ·
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ·
Claire Bennett, Dirprwy Gyfarwyddwr, Trawsnewid a Phartneriaethau
Llywodraeth Leol ·
Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol |
|
(10.30 - 12.00) |
Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) - Sesiwn dystiolaeth 1: Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a
Phlant John G Rees, Rheolwr Bil Katie Wilson, Cyfreithiwr Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ·
John G Rees, Rheolwr y Bil ·
Katie Wilson, Cyfreithiwr 2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a
Phlant i: ·
Ddarparu’r ffigurau ar unrhyw gynnydd yn y stoc tai cymdeithasol mewn
ardaloedd awdurdodau lleol lle y mae’r Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael wedi eu
hatal dros dro o dan y Mesur Tai (Cymru) 2011; ·
Darparu nodyn ar y weithdrefn a’r meini prawf cymhwyster ar gyfer ceisiadau
am ataliadau dros dro o dan Fesur Tai (Cymru) 2011; ·
Darparu drafft o’r ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth i denantiaid a darpar denantiaid
sy’n ofynnol o dan adran 8 o’r Bil; ·
I egluro pwrpas a’r effaith a fwriadwyd ar gyfer Adran 2 ac Adran 4 o’r
Bil. |
|
Papurau i’w nodi |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn perthynas â Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gymunedau a Phlant ynghylch Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig
(Cymru). |
||
Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Bil yr
Undebau Llafur (Cymru). |
||
Gwybodaeth Ychwanegol gan y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 2 Chwefror 2017 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth Ychwanegol gan y Comisiynydd
Cenedlaethau’r Dyfodol yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 2 Chwefror 2017 |
||
Gwybodaeth Ychwanegol gan Bartneriaeth Mewnfudo Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4.a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Bartneriaeth Mewnfudo
Strategol Cymru mewn perthynas â ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru. |
||
Adroddiad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol: Adroddiad Naratif bob chwe mis ar Wasanaethau Plant Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.5.a Nododd y Pwyllgor yr adroddiad gan y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid
Cenedlaethol: Adroddiad Naratif bob chwe mis ar Wasanaethau Plant. |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.6.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Economi a’r Seilwaith mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru. |
||
Gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.7.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gymunedau a Phlant mewn cysylltiad â thlodi yng Nghymru. |
||
Nodyn o drafodaethau’r grŵp ffocws mewn perthynas â Bil yr Undebau Llafur (Cymru) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.8.a Nododd y Pwyllgor y nodyn o drafodaethau’r grŵp ffocws mewn
cysylltiad â Bil yr Undebau Llafur (Cymru). |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
||
(12.00 - 12.05) |
Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru): trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3. Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3 a
chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am y materion a godwyd yn
ystod y sesiwn. |
|
(12.05 - 12.10) |
Craffu ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol - diwygio Llywodraeth Leol: trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2. |
|
(12.10 - 12.20) |
Bil yr Undebau Llafur (Cymru) - Trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad
yn amodol ar rai mân newidiadau. |
|
(12.20 - 12.30) |
Ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru - trafod yr adroddiad drafft Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chymeradwyodd yr adroddiad
yn amodol ar rai mân newidiadau. |