Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd

Ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd

 

Inquiry5

 

Cytunodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i gynnal tri ymchwiliad i dlodi yng Nghymru.

 

Darn byr o waith yn canolbwyntio ar Cymunedau yn Gyntaf oedd yr ail ffrwd waith. Bwriad y Pwyllgor oedd i’r gwaith hwn helpu i lunio polisi'r dyfodol a'r trefniadau trosiannol wrth i'r rhaglen ddirwyn i ben, a hynny drwy adolygu'r hyn a oedd wedi gweithio'n effeithiol.

 

Cylch gorchwyl

Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:

  • beth a fu’n llwyddiant a beth na fu’n llwyddiant i’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf;
  • sut y bydd awdurdodau lleol yn penderfynu pa brosiectau a fydd yn parhau i dderbyn cyllid ar ôl mis Mehefin 2017; a
  • sut y bydd gwahanol raglenni lleihau tlodi (Cymunedau am Waith, Esgyn, Dechrau’n Deg, ac ati) yn newid ar ôl i Gymunedau yn Gyntaf ddod i ben.

 

Casglu tystiolaeth

Fel rhan o’i waith yn casglu tystiolaeth, cynhaliodd y Pwyllgor ystod o sesiynau tystiolaeth lafar ynghyd ag ymgynghoriad. Gellir gweld amserlen o’r dystiolaeth lafar isod.

 

Adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei ganfyddiadau cychwynnol ar 25 Gorffennaf 2017. Gwnaeth hynny i alluogi'r Pwyllgor i lunio a chyhoeddi'r canfyddiadau cyn gynted â phosibl.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor yr adroddiad llawn: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd ar 18 Hydref 2017.

 

Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ym mis Hydref 2017. Cafwyd dadl ar yr adroddiad ac ymateb y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Hydref 2017.

 

Mae’r ffrydiau eraill o waith y Pwyllgor sy'n ymwneud â thlodi ar gael yma ac yma.

 

Cadw mewn cysylltiad

 

Os hoffech wybod rhagor am waith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ewch i’w dudalen hafan, dilynwch ei gyfrif Twitter neu cysylltwch â'r tîm sy'n cynorthwyo'r Pwyllgor yn SeneddCymunedau@cynulliad.cymru

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau