Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 07/03/2022 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd
ymddiheuriadau. Datganodd Luke Fletcher ei fod yn aelod o Achub Milgwn
Cymru. |
|
Sesiwn Dystiolaeth - P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg Gwenith Price, Swyddfa
Comisiynydd y Gymraeg
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gwenith Price, Dirprwy
Gomisiynydd y Gymraeg ac Eleri James, uwch swyddog polisi, seilwaith ac ymchwil
gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn
o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y deisebydd ac wedi lansio llwybr rheoli
trawiadau ac epilepsi cyntaf i oedolion yng Nghymru gyfan yn y Senedd y
llynedd. Nododd y Pwyllgor yr ymateb a chytunodd i ysgrifennu'n ôl
at y Gweinidog i ofyn beth yw'r cynlluniau ar gyfer cynyddu nifer y nyrsys a
lledaeniad nyrsys arbenigol epilepsi ledled Cymru. |
|
P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack Sargeant AS a Luke Fletcher AS y buddiant
perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'r ddau ohonynt yn adnabod y deisebydd. Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gynnal
ymchwiliad byr a chasglu tystiolaeth gan amrywiaeth eang o dystion. |
|
P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod aelod o'r teulu sydd â ffibromyalgia. Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a
chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn gofyn sut y mae
wedi cefnogi prifysgolion a cholegau a gofyn pa drafodaethau a gafwyd ynghylch
sicrhau bod cymaint o gyrsiau â phosibl ar gael drwy fynediad o bell. |
|
P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn
o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o Achub Milgwn Cymru. Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i gymryd
tystiolaeth a chynnal ymchwiliad byr. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyrioedd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a
chytunodd i:
|
|
P-06-1200 Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog wedi rhoi mwy o fanylion
am sut y mae’n bwriadu bwrw ymlaen â'i hymrwymiadau lles anifeiliaid, gan
gynnwys gwella hyfforddiant a sgiliau swyddogion gorfodi awdurdodau lleol a bod
Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi a sefydliadau lles
anifeiliaid ac yn bwriadu ymgynghori ar eu blaenoriaethau. Felly, cytunodd y
Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-06-1228 Talu bonws i athrawon uwchradd am farcio a safoni asesiadau swyddogol haf 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-06-1230 Mae pob eiliad yn cyfrif: Dylid gosod diffibriliwr ym mhob ysgol yng Nghymru i'r cyhoedd gael mynediad ato Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yng ngoleuni'r ffaith bod y Gweinidog wedi darparu ymateb
pellach ynghylch mynediad at gyllid, gan ddweud bod potensial o gyllid pellach
yn cael ei ystyried ac y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried hyrwyddo hyn
drwy rwydweithiau ysgolion a cholegau, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r
deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-05-949 Arbed yr hen ysgol ganolradd i ferched y bont-faen rhag ei dymchwel Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cydnabu'r Pwyllgor a chanmolodd yr ymgyrchu diflino a
wnaed gan y deisebydd drwy gydol y broses hon. Yn dilyn y ddadl yn y Senedd ar
16 Chwefror, daeth yr aelodau i'r casgliad eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu
gallu i gefnogi'r ddeiseb hon, ac felly cytunodd i gau'r ddeiseb nawr a diolch
i'r deisebydd. |
|
Papur i'w Nodi - Llythyr ac adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch ymgysylltu â phlant a phobl ifanc am flaenoriaethau’r Pwyllgor ar gyfer y Chweched Senedd Dogfennau ategol: Cofnodion: Nodwyd y papur. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 7 y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Trafod tystiolaeth - P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a chytunodd i
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y materion. Roedd y dystiolaeth
yn tynnu sylw at y trefniadau personol yng Nghymru a'r diffyg pwerau statudol i
weithredu argymhellion. Mae angen adolygiad manylach o'r darlun presennol cyn y
gellir gwneud argymhellion i fynd i'r afael â'r sefyllfa gymhleth hon. Cytunodd
y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw Pwyllgorau perthnasol y Senedd at hyn. |