Manylion y lleoliad

Ystafell Bwyllgora 5, Tŷ Hywel

Cyfarwyddiadau: Gall y cyhoedd fynd i mewn i Dŷ Hywel drwy’r fynedfa ar gornel Pierhead Street a Bute Place. Mae grisiau a rampiau yn arwain at y fynedfa. Ar ôl mynd i mewn i Dŷ Hywel, dylai ymwelwyr fynd at y dderbynfa. Bydd staff diogelwch a thywys ar gael i helpu yn ôl y gofyn. Mae cadeiriau olwyn ar gael i’r cyhoedd eu defnyddio yn yr adeilad.

I gyrraedd yr ystafell: Mae’r ystafell hon ar y Llawr Gwaelod yn Nhŷ Hywel – Ewch at y dderbynfa i gael tocyn, ac yna ewch drwy’r camau gwirio gyda’r swyddogion diogelwch. Trowch i’r dde heibio drysau’r brif fynedfa, ac ewch at y drysau sydd ar y dde i’r prif ddrysau. Cerddwch i lawr y cyntedd nes i chi gyrraedd Oriel Gyhoeddus 4 yr Ystafelloedd Pwyllgora ar yr ochr dde.

Mapiau Lleoliad:  Sut i gyrraedd i Tŷ Hywel , Mynd i gyfarfod Pwyllgor

Cyfeiriad: 
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Prif Ffôn: 0300 200 6565