Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/06/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. |
|
(09:30 - 10.15) |
COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r sector amgylcheddol Gill Bell,
Pennaeth Cadwraeth Cymru – Y Gymdeithas Cadwraeth Forol Tegryn Jones,
Prif Weithredwr – Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – yn cynrychioli’r
tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol Cymru Jerry Langford,
Arweinydd Polisi Cymru - Coed Cadw Katie-Jo Luxton,
Cyfarwyddwr - Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru Rachel Sharp,
Prif Weithredwr – Ymddiriedolaethau Natur Cymru Jess McQuade -
Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru Rebecca Williams,
Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cadwraeth) - Yr Ymddiriedolaeth
Genedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gill Bell, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol; Tegryn Jones,
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – yn cynrychioli’r tri Awdurdod
Parciau Cenedlaethol Cymru; Jerry Langford, Coed Cadw; Katie-Jo Luxton, Y
Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru; Rachel Sharp,
Ymddiriedolaethau Natur Cymru; Jess McQuade, Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF)
Cymru; Rebecca Williams, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. |
|
(10.30 - 11:15) |
COVID-19: Parhau gyda sesiwn dystiolaeth y sector amgylcheddol Gill Bell,
Pennaeth Cadwraeth Cymru – Y Gymdeithas Cadwraeth Forol Tegryn Jones,
Prif Weithredwr – Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – yn cynrychioli’r
tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol Cymru Jerry Langford,
Arweinydd Polisi Cymru - Coed Cadw Katie-Jo Luxton,
Cyfarwyddwr - Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru Rachel Sharp,
Prif Weithredwr – Ymddiriedolaethau Natur Cymru Jess McQuade -
Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru Rebecca Williams,
Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cadwraeth) - Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru Cofnodion: 3.1 Parhaodd yr
Aelodau i holi Gill Bell, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol; Tegryn Jones, Awdurdod
Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – yn cynrychioli’r tri Awdurdod Parciau
Cenedlaethol Cymru; Jerry Langford, Coed Cadw; Katie-Jo Luxton, Y Gymdeithas
Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru; Rachel Sharp, Ymddiriedolaethau Natur
Cymru; Jess McQuade, Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru; Rebecca Williams,
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
||
Ymateb Llywodraeth Cymru at adroddiad y Pwyllgor ar Dlodi Tanwydd yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020 Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1. Derbyniwyd y
cynnig. |
||
COVID-19: Trafod y dystiolaeth a daeth i law Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd
yn ystod eitemau 2 a 3. |
||
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Ategol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd yr
Aelodau y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Ategol ar gyfer Bil
Amaethyddiaeth y DU. |
||
Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Amgylchedd y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno. |
||
Trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y
Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni. |