Tlodi Tanwydd
Tlodi Tanwydd
Cynhaliodd y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig (y Pwyllgor) ymchwiliad i dlodi tanwydd
yng Nghymru.
Crynodeb
Roedd rhwymedigaeth statudol ar Lywodraeth Cymru (o dan Ymrwymiad Tlodi
Tanwydd Cymru 2003, fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni
2000) i ddileu tlodi tanwydd, hyd y bo’n rhesymol ymarferol, ym mhob aelwyd yng
Nghymru erbyn 2018. Roedd ffigurau Llywodraeth Cymru yn 2016 yn amcangyfrif fod
23% o gartrefi Cymru yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae’r ffigurau diweddaraf, a
gyhoeddwyd ym mis Mai 2019, yn dangos bod 12% o aelwydydd dal yn byw mewn tlodi
tanwydd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgynghori ar gynllun newydd i fynd
i’r afael â thlodi tanwydd yn hydref 2019, gyda’r bwriad o gyhoeddi cynllun
diwygiedig terfynol yn gynnar yn 2020.
Cylch gorchwyl
Bu’r Pwyllgor yn ystyreid y materion canlynol:
·
graddfa
ac effeithiau tlodi tanwydd yng Nghymru;
·
pam
na lwyddodd Llywodraeth Cymru i gyflawni ei tharged statudol i ddileu tlodi
tanwydd yng Nghymru erbyn 2018;
·
sut
mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yma wedi helpu i leihau tlodi
tanwydd, yn arbennig, effaith y Rhaglen Cartrefi Clyd (sy’n cynnwys Arbed a
Nyth) a Safon Ansawdd Tai Cymru;
·
sut
y dylai strategaeth olynol Llywodraeth Cymru i’r strategaeth tlodi tanwydd (a
fydd yn destun ymgynghoriad yn yr hydref 2019) fod yn wahanol i’w strategaeth
yn 2010;
·
pa
gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod cartrefi newydd, yn
ogystal â chartrefi presennol, yn effeithlon iawn o ran ynni i’w hatal rhag
achosi tlodi tanwydd yn y dyfodol.
Casglu
tystiolaeth
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda rhanddeiliaid i lywio ei waith, ar 8 Ionawr 2020; 22 Ionawr 2020 a
30 Ionawr 2020.
Ar 13 Chwefror 2020,
cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn tystiolaeth gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a
Materion Gwledig, a’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Yn dilyn y cyfarfod, ysgrifennodd
(PDF 365KB) y Cadeirydd at y Gweinidogion, (ar 14 Chwefror 2020) am ymateb
ysgrifenedig i gwestiynau na cyrhaeddwyd yn ystod y sesiwn oherwydd prinder amser.
Ymatebodd
(PDF 372KB) Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar 3 Mawrth 2020.
Gwnaeth y
Pwyllgor ymgynghori ar y pwnc hwn hefyd. Mae'r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi.
Adroddiad
y Pwyllgor
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei adroddiad: Tlodi
Tanwydd yng Nghymru (PDF 1646kb) ar 24 Ebrill 2020.
Ymatebodd
(PDF 543KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Mehefin 2020 a rhoddodd ymateb
pellach (PDF 140KB) ar 22 Medi 2020.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2019
Dogfennau
- Gohebiaeth at y Cadeirydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – 29 Hydref 2019 PDF 113 KB
- Gohebiaeth gan y Cadierydd at Gadeirydd Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau – 18 Rhagfyr 2019 PDF 228 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – 18 Rhagfyr 2019 PDF 227 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 30 Ionawr 2020 PDF 654 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - 14 Chwefror 2020 PDF 365 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 03 Mawrth 2020 PDF 372 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 24 Ebrill 2020 PDF 242 KB
- Adroddiad y Pwyllgor, Tlodi Tanwydd yng Nghymru - 24 Ebrill 2020
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 9 Mehefin 2020 PDF 543 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn ei adroddiad ar Dlodi Tanwydd yng Nghymru - 9 Mehefin 2020
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 22 Medi 2020 PDF 140 KB
- Papur: Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (Saesneg yn unig) - 22 Hydref 2020 PDF 162 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 2 Mawrth 2021 PDF 267 KB
Ymgynghoriadau
- Tlodi Tanwydd (Wedi ei gyflawni)