Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amgylchedd 2020

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amgylchedd 2020

Cyflwynwyd Bil Amgylchedd (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 30 Ionawr 2020.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi ei fod yn Fil sy’n "gwneud darpariaethau ynghylch targedau, cynlluniau a pholisïau i wella’r amgylchedd naturiol; ar gyfer datganiadau ac adroddiadau am ddiogelu’r amgylchedd; ar gyfer Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd; ynghylch gwastraff ac effeithlonrwydd o ran adnoddau; ansawdd aer; ar gyfer adalw cynhyrchion sy’n methu â bodloni safonau amgylcheddol; ynghylch dŵr; natur a bioamrywiaeth; ar gyfer cyfamodau cadwraeth; rheoleiddio cemegau; a dibenion cysylltiedig."

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd. 

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amgylchedd yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Medi 2021.

 

Gwaith craffu yn y Chweched Senedd

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Hydref 2021

 

Ar 28 Hydref 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) (PDF 114 KB).

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amgylchedd yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Tachwedd 2021.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Medi 2021

 

Ar 3 Medi 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 139 KB).

 

Cytunodd (PDF 41.8KB) y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol ar gyfer Bil yr Amgylchedd (Memorandwm Rhif 2), ac i gyflwyno adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 4 Tachwedd 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd (PDF 326KB) ar 23 Medi 2021. Ymatebodd (PDF 274KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 28 Medi 2021

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Mehefin 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 368KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2021.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 13 Medi 2021.

 

Cytunodd (PDF 45.6KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad, sef 23 Medi 2021.

 

Ysgrifennodd (PDF 142KB) Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at y Pwyllgor Busnes ynghylch amserlen graffu'r Memorandwm ar Fil yr Amgylchedd ar 2 Gorffennaf 2021.  Ymatebodd (PDF 162KB) y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes ar 7 Gorffennaf 2021.

 

Ar 19 Gorffennaf 2021, ysgrifennodd (PDF 223KB) y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Llywydd ynghylch yr amserlen ar gyfer craffu ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd.

 

Ar 20 Gorffennaf 2021, ysgrifennodd (PDF 75KB) y Cadeirydd, Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith at y Gweinidog Newid Hinsawdd gyda chwestiynau dilynol mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Amgylchedd, yn dilyn sesiwn dystiolaeth y Gweinidog yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 15 Gorffennaf 2021. Ymatebodd (PDF 998KB) y Gweinidog (PDF 994KB) ar 6 Awst 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei Adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Bil yr Amgylchedd (PDF 309KB) ar 21 Medi 2021. Ymatebodd (PDF 306KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 28 Medi 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil yr Amgylchedd (PDF 326KB) ar 23 Medi 2021. Ymatebodd (PDF 274KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 28 Medi 2021

 

Gwaith craffu yn y Bumed Senedd

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Rhagfyr 2020

 

Ar 4 Rhagfyr 2020, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 118KB).

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn Dydd Iau 18 Mawrth 2021(diwygiedig ar 23 Chwefror 2021).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 768KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 1 Chwefror 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar 19 Chwefror 2021.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Chwefror 2020

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 246KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar ddydd Mercher 26 Chwefror 2020.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 17 Gorffennaf 2020 (diwygiedig ar 29 Mehefin 2020).

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF 259KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 2 Gorffennaf 2020.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 17 Gorffennaf 2020.

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/02/2020

Dogfennau